Bydd gofod3, y gofod i’r sector gwirfoddol yng Nghymru, yn dychwelyd fel digwyddiad wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers 2019 ac rydyn ni’n methu aros i’ch gweld chi yno.
5 Mehefin 2024, Stadiwm Dinas Caerdydd
Rydyn ni’n dod â gofod3 yn ôl fel digwyddiad wyneb yn wyneb eleni am y tro cyntaf ers cyn y pandemig.
Gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni am amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, trafodaethau panel a gweithdai. Gallwn ni eich sicrhau chi y bydd rhywbeth at ddant pawb.
Ac wrth gwrs, bydd dychwelyd i ddigwyddiad wyneb yn wyneb yn rhoi cyfleoedd di-ri i chi rwydweithio â’ch cymheiriaid o bob rhan o’r sector gwirfoddol, yn ogystal â sgwrsio â chydweithwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn ein marchnad brysur.