Digwyddiadau Cysylltiedig

Datgloi haelioni: Cyflwyno elusennau i roi drwy’r gyflogres
Mer 2 Gorff 2025, 4:00pm
Codi arian
Darganfyddwch sut y gall rhoi drwy’r gyflogres greu ffrwd incwm gynaliadwy i elusennau gan wneud rhoi yn hawdd i roddwyr.
Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno elusennau i fanteision rhoi drwy’r gyflogres, sut i ymgysylltu â chyflogwyr, ac arferion gorau ar gyfer llwyddo.
Drwy wybodaeth arbenigol ac astudiaethau achos bywyd go iawn, byddwch yn dysgu am strategaethau y gellir eu gweithredu i wneud y mwyaf o roddion a chryfhau perthnasoedd â phartneriaid corfforaethol. P’un a ydych yn newydd i roi drwy’r gyflogres neu’n awyddus i wella’ch rhaglen, bydd y sesiwn hon yn rhoi arweiniad ymarferol i hybu ymgysylltiad ac effaith rhoddwyr.

Cinio a chlonc – cyfle i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg
Mer 2 Gorff 2025, 1:20pm
Cymraeg
Hoffech chi gael cyfle i ymarfer eich Cymraeg gydag eraill sydd am fagu hyder i ddefnyddio’r iaith? Dewch draw am sgwrs yn Gymraeg gyda chyfoedion dros ginio.
Mae’r sesiwn hon wedi’i hanelu at ddysgwyr Cymraeg a’r rhai a hoffai gynyddu eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg.

Rhwydwaith y Gymraeg yn y Trydydd Sector
Mer 2 Gorff 2025, 2:30pm
Cymraeg
Bydd Tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal Rhwydwaith y Gymraeg yn y Trydydd Sector yn gofod3 eleni. Mae’r Rhwydwaith yn rhoi’r cyfle i chi glywed gan siaradwyr arnbennig, i rwydweithio ac i ddysgu wrth ein gilydd wrth drafod heriau a llwyddiannau.

Pweru cymunedau: Sicrhau’r effaith fwyaf bosibl o gyllid budd cymunedol ynni adnewyddadwy yng Nghymru
Mer 2 Gorff 2025, 12:30pm
Cyllido
Mae twf ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn creu cronfeydd budd cymunedol, gan gynnig buddsoddiad a grymuso lleol. Mae’r panel hwn, sy’n cael ei arwain gan Gymorth Cymunedol Gwirfoddol Conwy (CCGC) ac RWE (cynhyrchydd ynni mwyaf Cymru), yn archwilio tirweddau amrywiol y cronfeydd hyn.
Bydd y trafodaethau’n cynnwys gwneud penderfyniadau ar lawr gwlad, modelau rheoli, hygyrchedd, mesur effaith, ac alinio ag anghenion cymunedol. Bydd rhanddeiliaid, gan gynnwys rheolwyr cronfeydd a derbynwyr, yn rhannu gwybodaeth ac arferion gorau, gyda’r nod o wella effeithiolrwydd y cronfeydd, cynyddu ymwybyddiaeth, a meithrin arferion cydweithio.