Gofod3
Gofod3

Yma gallwch ddarganfod beth sy'n digwydd yn ystod yr wythnos ac archebu lle ar y digwyddiadau yr hoffech eu mynychu.

Gallwch ddefnyddio'r opsiynau hidlo i ddod o hyd i ddigwyddiadau sy'n ymwneud â phynciau penodol, mathau o ddigwyddiadau, yn ôl dyddiad, lefel cyfranogiad a lefel y wybodaeth ac mae gennym hefyd opsiwn cipolwg defnyddiol lle gallwch weld yr holl ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn eu trefn o ddyddiad ac amser.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud nodyn o'r sesiynau rydych chi'n archebu lle arnynt i osgoi unrhyw wrthdaro yn eich dyddiadur yn ystod yr wythnos!

View by...

Dwyieithrwydd

Plant a phobl ifanc

Newid yn yr hinsawdd

Cymunedau

Argyfwng costau byw

Data

Digidol

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Cyllid a chodi arian

Llywodraethu

Iechyd a gofal cymdeithasol

Treftadaeth

Effaith

Marchnata a chyfathrebu

Iechyd meddwl

Datblygiad proffesiynol

Gwydnwch

Rhedeg eich mudiad

Diogelu

Presgripsiynu cymdeithasol

Gwirfoddoli

Dangos Popeth

Deall Lleoedd Cymru: Gwybod eich Lle drwy Ddata

Llun 20 Meh 2022, 10:00am

Zoom

Gweithdy

Adnodd digidol yw Deall Lleoedd Cymru (UWP) a luniwyd drwy gydweithrediad rhwng y Sefydliad Materion Cymreig, Carnegie UK, y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES), Wiserd a Llywodraeth Cymru. Mae’n cynnig gwasanaeth unigryw: gwneud data am drefi a lleoedd bach yng Nghymru yn hygyrch mewn un lle, ar fformat gwbl ddwyieithog. Mae cyhoeddiad data Cyfrifiad 2021 sydd ar ddod yn addo i fod yn drobwynt yn ein hanes o ran cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf mewn modd cynhwysfawr, ac o bosibl, gwella ein gwasanaethau. Yn y gweithdy hwn, byddwch chi’n dysgu am yr adnodd UWP a’i botensial ar gyfer eich lle chi, ac yn cael y cyfle i gyfrannu eich syniadau ar ble allai fynd nesaf.

Gwirfoddoli: ymateb cymunedol i argyfwng

Llun 20 Meh 2022, 10:00am

Teams

Seminar
Isel
Canolradd

Mae gwirfoddoli wedi hen ddiffinio ymatebion cymunedau i argyfwng. Mae graddfa ac amlder yr argyfyngau rydyn ni wedi’u hwynebu’n ddiweddar wedi taflu sbotolau ar weithredu gwirfoddol – ei bwysigrwydd, effaith a’i gynaliadwyedd. O Storm Dennis, drwy bandemig Covid-19 i groesawu ffoaduriaid o Afghanistan a Wcráin, rydyn ni’n ceisio ateb y cwestiynau o ran beth sy’n ysgogi pobl i wirfoddoli mewn adeg o argyfwng, pa effaith mae’r cyfnodau o ymchwydd sylweddol mewn gweithgarwch gwirfoddoli wedi’i chael ar y sector, ac a fydd unrhyw effeithiau hirdymor? Ymunwch â ni am drosolwg gan John Drury, Athro Seicoleg Gymdeithasol ym Mhrifysgol Sussex a Natalie Zhivkova, Swyddog Polisi Gwirfoddoli yn CGGC.

Cyflwyniad i’r Rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau

Llun 20 Meh 2022, 10:00am

Teams

Seminar
Canolig
Canolradd

Mae’r Rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau yn helpu elusennau sy’n ei chael hi’n anodd gwario eu hincwm er budd y cyhoedd drwy eu cynorthwyo i ddefnyddio’u hincwm a’u hasedau’n effeithiol. Mae’r Comisiwn Elusennau yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru (CFW). Nod y Rhaglen yw cynorthwyo elusennau aneffeithiol neu anweithredol a rhoi opsiynau syml iddynt ddod â’u helusen i ben, ei drosglwyddo neu ei adfywio. Nid yw llawer o ymddiriedolwyr yn ymwybodol bod miloedd o gronfeydd anweithredol â gwerth ariannol o ddegau o filiynau, llawer ag incymau enwol bach, y gellid eu cyfuno a’u defnyddio’n fwy effeithiol i roi cymorth mawr ei angen i elusennau lleol.

Buddsoddiad Cymdeithasol i Adeiladau Hanesyddol

Llun 20 Meh 2022, 10:00am

Zoom

Seminar
Isel
Dechreuwr

Bydd y sesiwn hwn yn ffocysu ar y cyngor a chymorth (grantiau a benthyciadau) sydd ar gael gan y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol ar gyfer mentrau cymdeithasol sydd naill ai’n gweithredu o a / neu’n bwriadu cael perchenogaeth ar adeilad hanesyddol yng Nghymru.

Cymunedau a’r Argyfwng Costau Byw: Gweithredu

Llun 20 Meh 2022, 12:00pm

Zoom

Gweithdy
Canolig
Canolradd

Ymunwch â’r sesiwn hon i glywed am yr hyn y mae grwpiau cymunedol ledled Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, ac i gael gwybod sut gallwch chi gymryd rhan yn yr ymgyrchu dros newid.

Cyflwyniad i Bresgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd: Dod â Bioffilia i amgylcheddau gwaith, gofal a’r cartref er mwyn cefnogi iechyd a llesiant

Llun 20 Meh 2022, 12:00pm

Zoom

Seminar

A ydych chi wedi clywed y term Presgripsiynu Cymdeithasol ac wedi meddwl, tybed beth yw hwnna? Yn y gweithdy hwn byddwn ni’n edrych ar yr hyn a olygir wrth bresgripsiynu cymdeithasol, gan gynnwys:
• sut gellir ei drosglwyddo i’r gweithle a lleoliadau addysg i wella llesiant
• sut mae ‘gwyrddio’, ‘cysylltedd â natur’ a ‘bioffilia’ yn cael eu dylunio i hybu llesiant seicolegol
• sut gellir defnyddio’r syniadau hyn wrth ofalu am eraill, yn ogystal â gwella ein hunan-dosturi
• sut i ddatblygu perthynas agosach â natur a’n ‘hunain ecolegol’
• syniadau ymarferol i’w defnyddio eich hun

Fesul tipyn, mae Presgripsiynu Cymdeithasol yn dod yn rhan annatod o gymorth gofal sylfaenol y GIG yng Nghymru (Hyb Gofal Sylfaenol, Cymru, 2018). Mae mwy a mwy o dystiolaeth y gall presgripsiynu cymdeithasol, sydd wedi’i baru’n ofalus ag anghenion personol, arwain at iechyd a llesiant cadarnhaol, a gwella ansawdd bywyd unigolyn (Yr Academi Genedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol, 2021).

Aeddfedrwydd Data: deall ble ydych chi nawr

Llun 20 Meh 2022, 12:00pm

Zoom

Gweithdy
Canolig
Dechreuwr

Gweithdy cyfranogol sy’n canolbwyntio ar helpu mudiadau i ddeall ble maen nhw o ran data fel y gallant gynllunio er mwyn gwella. Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad byr i aeddfedrwydd data. Yna, bydd pob cyfranogwr yn cynnal asesiad aeddfedrwydd data am ddim o’i fudiad ei hun. Yna, mewn grwpiau trafod, bydd cyfranogwyr yn cymharu a chyferbynnu sgorau eu hasesiadau aeddfedrwydd data ac yn trafod sut gallai hyn lunio eu dull o wella data. Yn olaf, bydd y gweithdy yn dod i ben drwy awgrymu camau nesaf.

Pŵer Llais Pobl Ifanc a’r alwad i wrando

Llun 20 Meh 2022, 12:00pm

Zoom

Seminar
Isel
Dechreuwr

Platfform yw’r elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol. O fewn ein gwasanaethau i bobl ifanc, rydyn ni’n gweld pŵer llais pobl ifanc â’n llygaid ein hunain. Rydyn ni wedi bod ar daith anhygoel ers sefydlu ein prosiect llesiant cyntaf a gyd-gynhyrchwyd, gan symud at ffordd o weithio sy’n rhannu pŵer â phobl ifanc ac yn ein herio i wneud yn well. Ymunwch â ni i glywed am daith ein prosiect Meddwl am dy Feddwl, lle mae hwn wedi ein harwain ato heddiw, beth, yn nhyb pobl ifanc, sy’n bwysig mewn gwasanaethau iechyd meddwl a sut mae’r broses gyd-gynhyrchu wedi cyflwyno buddion llesiant i ni i gyd.

Sut gall cyflogwyr gefnogi goroeswyr?

Llun 20 Meh 2022, 2:00pm

Zoom

Seminar
Isel
Dechreuwr

Arweiniad byr ar sut gall cyflogwyr ddechrau creu man diogel i gyflogeion, gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaethau drwy wneud safiad ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd y weminar yn cynnwys:
• Cyfeirio at adnoddau a chymorth perthnasol i’r rheini sydd wedi’u heffeithio.
• Trafodaeth fer ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle a gofynion cyfreithiol cyflogwyr.
• Stori goroeswr.
• Mewnolwg i sut allai cyflogeion gael eu heffeithio gan y materion hyn yn y gwaith ac yn eu bywydau personol.
• Arweiniad ar sut gall cyflogwyr gefnogi goroeswyr a chefnogi aelodau staff sydd wedi’u heffeithio mewn modd ystyrlon.

Addasu i’r gweithlu newidiol: cefnogi cyflogeion â chyfrifoldebau gofalu

Llun 20 Meh 2022, 2:00pm

Teams

Gweithdy
Canolig
Dechreuwr

Ar anterth y pandemig, roedd 345,000 o bobl yn ceisio cael cydbwysedd rhwng cyflogaeth a chyfrifoldebau gofal di-dâl, sy’n cyfateb â 25% o weithlu Cymru. Heb gymorth, gallai iechyd, arian a gyrfaoedd gofalwyr gael eu heffeithio’n negyddol.
Gan addasu i’r gweithlu newidiol hwn, bydd y sesiwn ryngweithiol hon a gyflwynir gan Gofalwyr Cymru yn ymdrin â’r canlynol:
• Polisïau perthnasol gan y llywodraeth sy’n llywio gwaith ymchwil
• Cyngor i ofalwyr sy’n gweithio a gofalwyr sy’n gobeithio dychwelyd i weithio
• Syniadau i fudiadau i ddiwallu anghenion eu gweithlu a datgloi buddion busnes
Yn dilyn y sesiwn, byddwch chi’n cael copi caled o’n Canllawiau i Ofalwyr sy’n Gweithio, adnodd perffaith ar gyfer rheolwyr llinell a chyflogeion.

Cysylltu Eich Cymunedau â Lle Cwrdd Modern a Chynaliadwy

Llun 20 Meh 2022, 2:00pm

Teams

Seminar

Waeth a yw’n lle bychan i bobl roi eu pennau ynghyd, swyddfa gartref, ystafell gyfarfod fawr neu hyd yn oed yn neuadd gymunedol a rennir, mae man cyfarfod modern a chynaliadwy yn cysylltu ac yn ymhél cymunedau ar hyd a lled y wlad a hyd yn oed y byd. Ymunwch â ni i ddarganfod sut gallwch chi ddefnyddio Microsoft Teams a’r dyfeisiau arloesol, diweddaraf a ardystiwyd gan Teams i helpu i adeiladu eich lle cyfarfod modern a chynaliadwy eich hun. Byddwn ni hefyd yn cyflwyno astudiaeth achos i ddangos o lygad y ffynnon yr effaith gadarnhaol y mae man cyfarfod modern a chynaliadwy wedi’i chael o fewn y sector gwirfoddol, yn ogystal â’r buddion y mae wedi’u cyflwyno i’r mudiadau hyn a’u cymunedau.

Cefnogi Iechyd Meddwl a Llesiant Pobl Ifanc

Llun 20 Meh 2022, 2:00pm

Zoom

Seminar
Canolig
Dechreuwr

Mae’r achosion iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc ar gynnydd, ynghyd â hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta. Bydd y seminar hon yn edrych ar y gwahanol fathau o anawsterau iechyd meddwl y mae pobl ifanc yn eu profi a’r ymddygiadau a ddaw gyda’r rhain. Bydd ffyrdd amrywiol o adeiladu gwydnwch yn cael eu cyflwyno a sut gellir cefnogi pobl ifanc.

Pam maen nhw i gyd yn dod yma? Dysgwch y gwahaniaeth rhwng chwedlau a ffeithiau am ffoaduriaid

Llun 20 Meh 2022, 2:00pm

Zoom

Gweithdy

Gallwch chi ddysgu’r ffeithiau am ffoaduriaid mewn dim ond 60 munud. Ymunwch â ni am sesiwn ryngweithiol yn edrych ar batrymau mudo, beth mae’r papurau yn eu dweud, a beth mae’r data yn ei ddweud wrthym ni mewn gwirionedd. Byddwch chi’n dysgu:
• Y gwahaniaeth rhwng chwedlau a ffeithiau
• Fframio – a sut mae’n effeithio ar y rhan fwyaf ohonom
• Adnoddau i gael sgyrsiau gyda’ch ffrindiau
• Sut gallwch chi groesawu ffoaduriaid

Dyfodol Gweithio Gartref a’r Gweithle: Cael y Gymysgedd Gywir

Maw 21 Meh 2022, 10:00am

Zoom

Seminar

Yn yr oes ôl-Covid, mae llawer o fudiadau wedi croesawu’r arfer o weithio gartref ac mewn modd hybrid, ac maen nhw wedi gweld gweithluoedd hapusach o ganlyniad i hyn. Fodd bynnag, mae cyflogwyr eraill wedi parhau i gael anhawster ceisio cael y cydbwysedd yn iawn, i ddarbwyllo staff i ddychwelyd i’r gweithle, neu i lunio eu strategaeth hirdymor ar y mater hwn. Gall hyn yn ei dro gael effeithiau negyddol ar forâl y gweithle, trosiant staff a recriwtio. Yn y weminar hon, byddwn ni’n siarad am y gyfraith cyflogaeth a goblygiadau adnoddau dynol o newid lle gwaith rhywun, a yw’n bosibl cymell cyflogai cyndyn i ddod i’r gweithle, a bydd yn rhoi arweiniad ar ddatblygu polisi clir ar weithio gartref sy’n addas i’ch mudiad chi. Byddwn ni hefyd yn trafod yr ymarferoldeb o reoli cyflogeion pan maen nhw’n gweithio o bell a beth i’w wneud os yw hyn yn effeithio ar eu cynhyrchiant.

Hyder gyda Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Maw 21 Meh 2022, 10:00am

Zoom

Trafodaeth
Isel
Canolig
Dechreuwr

Yn aml, mae mudiadau elusennol yn teimlo wedi’u llethu pan ddaw hi i roi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) ar waith yn eu gweithrediadau bob dydd, ac rydyn ni eisiau sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei rhoi i helpu eraill i ‘wneud EDI’ yn dda a’u gwneud yn ystyrlon yn eu gweithgareddau bob dydd. Yn CGGC, rydyn ni wedi ailedrych ar ein hethos EDI ein hunain ac wedi gweithio’n galed i gael dealltwriaeth well o’n hunain a sut mae ein pobl yn teimlo, yn ogystal ag edrych ar y gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig i’n haelodau. Nawr yw’r amser i rannu ein profiadau ag eraill ac annog mudiadau llai i ddechrau ar eu teithiau EDI eu hunain.

Dadansoddi Effaith Gymdeithasol: Cymhwyso’r Egwyddorion Gwerth Cymdeithasol ac SROI

Maw 21 Meh 2022, 10:00am

Zoom

Gweithdy
Canolig
Dechreuwr

Bydd y sesiwn yma yn rhoi cyflwyniad i chi ar gyfer asesu, mesur a rheoli effaith gymdeithasol unrhyw fudiad neu weithgaredd gan ddefnyddio’r Egwyddorion Gwerth Cymdeithasol

Chwe mis o Newid: Beth ydyn ni wedi’i ddysgu?

Maw 21 Meh 2022, 10:00am

Zoom

Gweithdy

Bydd Partneriaid Newid (CGGC, ProMo Cymru a Cwmpas [Canolfan Cydweithredol Cymru cyn hyn]) yn cyflwyno rhai o’r pethau rydyn ni wedi’u dysgu yn y chwe mis o gynllunio a chyflwyno Newid: digidol ar gyfer y trydydd sector. Bydd hyn yn cynnwys cipolwg ar yr arolwg sylfaenol a gynhaliwyd drwy fis Mawrth 2022, a gafodd ei gwblhau gan fwy na 500 o fudiadau. Byddwn ni hefyd yn myfyrio ar bwysigrwydd digidol yn nyfodol mudiadau gwirfoddol Cymru, a beth mae gwasanaethau Newid wedi eu dysgu i ni am yr hyn y mae’r sector yn deall digidol.

Dechrau ar roddion o’r newydd – Sut i hybu Rhoi Unigol o fewn eich elusen

Maw 21 Meh 2022, 10:00am

Zoom

Trafodaeth panel
Canolig
Uwch
Dechreuwr
Canolradd

Dechrau ar roddion o’r newydd – Sut i hybu Rhoi Unigol o fewn eich elusen Sesiwn yn edrych ar ffyrdd y gall elusennau bach ddechrau cynyddu eu hincwm elusennol drwy roddion, hyd yn oed pan nad ydyn nhw erioed wedi cael rhoddion o’r blaen. Gan edrych ar roddion ar-lein, rhoddion rheolaidd a chymynroddion, bydd sylfaenydd y ‘Funding School’, Rosie Cribb, yn sgwrsio â Clare Sweeney, codwr arian cyhoeddus arbenigol, i ddysgu am y ffyrdd y gall elusennau ddechrau edrych ar y maes codi arian hwn na chaiff ei ddefnyddio’n aml, sy’n cynnig cwmpas gwych ar gyfer cynaliadwyedd ariannol hirdymor. Gwrandewch ar rai enghreifftiau gwych o godi arian yn llwyddiannus o fewn elusennau heb fawr ddim profiad blaenorol o godi arian yn y modd hwn.

Byddwn ni hefyd yn clywed gan elusen fechan sydd wedi sefydlu ei chynllun rhoi misol ei hunan o’r newydd ac yn dysgu o’i phrofiadau.

Noddir y digwyddiad hwn gan www.fundingschool.co.uk sy’n arbenigo mewn cynnig cyrsiau hyfforddi digidol a grŵp i gyflymu eich ymdrechion codi arian – cofrestrwch drwy’r diweddariad i gael adnoddau codi arian am ddim a newyddion am gyrsiau!

Cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth gyda’r Brifysgol Agored

Maw 21 Meh 2022, 10:00am

Zoom

Seminar

Mae Canolfan Arweinyddiaeth y Sector Gwirfoddol (CVSL) y Brifysgol Agored yn cynnig cyrsiau ac adnoddau datblygu arweinyddiaeth am ddim sy’n seiliedig ar ein gwaith ymchwil. Ymunwch â ni i ddysgu mwy am y canlynol:
• Cyrsiau datblygu arweinyddiaeth am ddim ar ein platfform OpenLearn
• Clybiau Dysgu Arweinyddiaeth
• Adnoddau a digwyddiadau ar-lein
• Ymchwil sylfaenol CVSL ar arweinyddiaeth a chydweithredu

Denu a chadw cyflogeion, buddion cyflogeion o grŵp elusennol

Maw 21 Meh 2022, 12:00pm

Teams

Gweithdy
Isel

Faint fyddech chi’n ei fuddsoddi er mwyn cadw eich cyflogeion, neu i ddenu cydweithwyr newydd i’ch mudiad? Cynllun Iechyd HSF, cwmni masnachu’r elusen ‘The Hospital Saturday Fund’. Bydd Heather yn egluro sut mae eu cynlluniau iechyd yn gwneud buddion cyflogeion yn hygyrch i gyflogwyr heb lawer o gyllideb os o gwbl, ond yn parhau i gael effaith arnoch chi, a’ch cyflogeion!

Cyllido torfol – cynyddu rhoddion unigol drwy ymgyrchoedd ar-lein

Maw 21 Meh 2022, 12:00pm

Zoom

Seminar
Isel
Dechreuwr
Canolradd

Mae Localgiving wedi rhoi cymorth 1:1 i fwy na 350 o fudiadau elusennol ledled 22 sir Cymru. Ers 2016, mae ein rhaglen i Gymru wedi rhoi hyfforddiant am ddim a chyllid cyfatebol i fusnesau nid-er-elw bach a chanolig sydd eisiau dysgu mwy am godi arian ar-lein. Rydyn ni’n helpu mudiadau i godi ymwybyddiaeth o’u gwaith ac yn ei gwneud hi’n hawdd derbyn rhoddion drwy’r rhyngrwyd. Ymunwch â’n sesiwn os hoffech chi ddysgu mwy am sicrhau incwm anghyfyngedig drwy roddwyr unigol, digwyddiadau codi arian a rhoddion misol. Byddwn ni’n canolbwyntio ar gyllido torfol drwy ymgyrchoedd ar-lein a gwybodaeth am y grantiau rydyn ni’n eu cynnig.

Hawliau Plant a Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Cymru

Maw 21 Meh 2022, 12:00pm

Zoom

Gweithdy
Canolig
Dechreuwr

Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn eich cyflwyno chi i Hawliau Plant a Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Cymru. Yn ogystal â dysgu am Hawliau Plant a’r Safonau Cyfranogiad, byddwn ni’n eich cael chi i feddwl am sut gallwch chi gadw hawliau’r plant a’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw, a sut i weithio tuag at y Safonau i’w cefnogi i ddweud eu dweud.

Trawsnewid profiad gofalwyr di-dâl o’r maes iechyd a gofal cymdeithasol: y prosiect Ymwybyddiaeth o Ofalwyr

Maw 21 Meh 2022, 2:00pm

Zoom

Trafodaeth
Gweithdy
Canolig
Canolradd

A yw eich gwaith yn cynnwys darparu gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol? Neu gynorthwyo a rhoi cyngor i bobl ar sut i gael gafael ar y gwasanaethau hyn? Dysgwch fwy am wella bywydau gofalwyr di-dâl, a’r adnoddau Ymwybyddiaeth o Ofalwyr sydd ar gael i’ch helpu chi:
– deall hawliau cyfreithiol gofalwyr;
– sut i weithio’n effeithiol gyda gofalwyr, ar sail yr hyn y mae gofalwyr yn ei ddweud;
– sut i gefnogi gofalwyr yn eu rhyngweithiadau â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol;
– annog a chefnogi dulliau cyd-gynhyrchu rhwng y sector statudol / trydydd sector / gofalwyr di-dâl;
– sut i gael mynediad at ein hyfforddiant am ddim, cael oriau datblygiad proffesiynol parhaus (CPD) ac ennill y bathodyn clodfawr, Ymwybyddiaeth o Ofalwyr.

Sgwrs Codi Ymwybyddiaeth Aren Cymru

Maw 21 Meh 2022, 2:00pm

Zoom

Seminar
Isel
Dechreuwr

Sgwrs codi ymwybyddiaeth yw hon a gyflwynir gan un o Lysgenhadon Gwirfoddol Aren Cymru. Mae gan ein llysgenhadon gysylltiad personol â chlefyd yn yr arennau ac maen nhw’n frwdfrydig ynghylch rhannu eu profiad byw er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth ar hyd a lled Cymru. Bydd y sgwrs yn ymdrin ag Iechyd yr Arennau, Clefyd yr Arennau, Trawsblannu a Dialysis, profiad byw rhywun â chlefyd yn yr arennau ac ychydig o wybodaeth am Aren Cymru a sut rydyn ni’n cefnogi cleifion a theuluoedd. Trwy godi ymwybyddiaeth o glefyd yr arennau, rydyn ni’n gobeithio creu amgylchedd mwy cefnogol a deallgar i’r rheini y mae’n effeithio arnyn nhw a’r bobl o’u cwmpas.

Sgwrs DU gyfan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: Rhoi Cymunedau’n Gyntaf

Maw 21 Meh 2022, 2:00pm

Teams

Gweithdy
Uchel
Uwch
Dechreuwr
Canolradd

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi lansio ei sgwrs DU gyfan a ddisgrifir yma: Rhoi Cymunedau’n Gyntaf. Hwn yw dechrau sgwrs DU gyfan ynghylch y ffordd orau i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gefnogi pobl a chymunedau i ffynnu wrth symud ymlaen. Bydd y gweithdy hwn yn gyfle i glywed mwy am sut mae’r mudiad yn adnewyddu ei strategaeth a chanfyddiadau adolygiad diweddar ar beth sy’n digwydd yng Nghymru.

Oes Argyfwng

Maw 21 Meh 2022, 2:00pm

Zoom

Trafodaeth

Mae’r sector gwirfoddol wedi gorfod ymateb i nifer o argyfyngau mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o’r newid yn yr hinsawdd i’r pandemig a chynorthwyo ffoaduriaid sy’n dianc rhag gwrthdaro. Mae’n bwysig bod mudiadau gwirfoddol yn gallu ymateb yn effeithiol i’r mathau hyn o argyfyngau. Ymunwch â ni am drafodaeth banel lle y bydd arbenigwyr o’r sector yn trafod sut gall mudiadau gwirfoddol fod yn barod i wynebu argyfwng.

Bwlio ac Aflonyddu yn y Gweithle – Beth i’w wneud a pheidio â’i wneud

Mer 22 Meh 2022, 10:00am

Zoom

Seminar

Serch y cynnydd mewn gweithio o bell yn ystod pandemig Covid-19, awgryma adroddiadau diweddar fod bwlio ac aflonyddu’n parhau i fod yn broblemau cyffredin yn y gweithle. Er y gall cyflogeion fod yn treulio llai o amser yn y mannau gweithio ffisegol, awgryma gwaith ymchwil fod bwlio ac aflonyddu, ac yn benodol, aflonyddu rhywiol, wedi newid eu ffurf yn y gweithle rhithiol , ac mae cynnydd wedi’i weld mewn bwlio ac aflonyddu ar-lein. Er mwyn osgoi bwlio ac aflonyddu posibl yn y gweithle, rhaid i gyflogwyr sicrhau bod hyfforddiant ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth yn cael ei gyflwyno’n rheolaidd a bod ganddynt bolisi Cyfle Cyfartal addas i’r diben yn ei le. Mae angen i bob mudiad ddangos ei fod wedi creu diwylliant nad yw’n gwahaniaethu yn y mudiad a gaiff “ei fyw a’i anadlu” gan bawb. Yn ystod y weminar hon, bydd ein harbenigwyr Adnoddau Dynol a Chyflogaeth yn amlinellu egwyddorion diogelu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y gweithle, sut i osgoi honiadau o aflonyddu, a’r canlyniadau posibl os bydd cyflogwyr yn methu â chymryd camau i wneud hynny.

Ailgysylltu ar ôl y pandemig – a ydyn ni’n dal i fyny â’n cymunedau?

Mer 22 Meh 2022, 10:00am

Zoom

Trafodaeth
Uchel
Uwch

Mae wedi bod yn ddwy flynedd anodd, ac wrth i rai unigolion, grwpiau a mudiadau roi blaenoriaeth i ddychwelyd i’w cymunedau, mae eraill yn rhoi blaenoriaeth i gefnogi o bell yn yr oes normal ddigidol newydd hon. Byddwn ni’n cynnal trafodaeth agored am le mae cymunedau arni, a sut gallwn ni gynorthwyo pobl orau i ailgysylltu a sicrhau bod cymunedau’n ffynnu. Ymunwch â ni i ddysgu mwy a rhwydweithio â phobl o’r un bryd.

Cydlynu Ymateb Gwirfoddol mewn Argyfwng

Mer 22 Meh 2022, 10:00am

Teams

Seminar
Isel
Uwch
Dechreuwr
Canolradd

Gwnaeth yr ymateb cymunedol gwerthfawr i bandemig Covid-19 ac argyfyngau mawr eraill amlygu’r angen i gydlynu gwirfoddolwyr yn effeithiol. Gyda chymorth Grŵp Gwydnwch Cymru, gwnaeth y Groes Goch Brydeinig, gyda chyllid gan Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru, gydlynu gwaith ymchwil ac ymgynghoriad er mwyn gwella’r gwaith o gydlynu gwirfoddolwyr yng Nghymru wrth ymateb i argyfyngau, drwy edrych ar bartneriaethau o fewn a rhwng y trydydd sector, y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno’r adroddiad terfynol, gydag argymhellion ar gyfer fframwaith cydlynu a fydd yn mynd at Fforwm Gwydnwch Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen ag ef.

Y Cod Ymarfer Diogelu

Mer 22 Meh 2022, 10:00am

Zoom

Gweithdy

Yn ystod Gwanwyn 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru God Ymarfer Diogelu newydd wedi’i anelu at amrediad eang o fudiadau: Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu pobl: Cod Ymarfer Diogelu. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i unigolion, grwpiau a mudiadau sy’n cynnig gweithgareddau neu wasanaethau ddilyn y cyngor hwn. Bydd hyn yn dangos bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i sicrhau diogelwch plant ac oedolion mewn perygl. Bydd y gweithdy rhyngweithiol yn rhoi trosolwg o’r cod a sut gellir ei ddefnyddio. Bydd ystafelloedd trafod yn cynnig cyfle i drafod agweddau ar y cod mewn mwy o fanylder a sut i roi’r rhain ar waith yn eich mudiad.

Cyflwyniad i weithio gyda Chymunedau Amrywiol

Mer 22 Meh 2022, 12:00pm

Zoom

Gweithdy
Canolig
Dechreuwr

Mae EYST yn eich gwahodd i ymuno â’n Tîm arweinyddiaeth newydd i edrych ar weithio gyda chymunedau amrywiol. Byddwch yn clywed gan weithwyr Cymorth i Deuluoedd a gweithwyr Ieuenctid ar sut i roi’r cymorth gorau i gymunedau lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru a gwella eich ymwybyddiaeth a’ch dealltwriaeth. Bwriedir i’r sesiwn fod yn hwyl ac yn rhyngweithiol!

Rheoli Risg – Beth sydd angen i chi wybod i helpu i ddiogelu eich mudiad

Mer 22 Meh 2022, 12:00pm

Zoom

Seminar

Mae rheolaeth risg dda yn hanfodol i ymdrechion mudiad i gyflawni ei nodau, ac mae’n ganolog i lywodraethu da. Prif ddiben rheoli risg yw adnabod risgiau posibl i’ch mudiad a allai ei atal rhag cyflawni ei nodau a chaniatáu i chi sefydlu gweithdrefnau i osgoi’r risg neu i ymdopi’n well â’i heffaith, gyda’r nod o ddiogelu eich mudiad. Diben y sesiwn hon yw eich cynorthwyo gyda dull eich mudiad o fynd ati i reoli risg.

Gwerth gwirfoddoli o fewn modelau gofal integredig

Mer 22 Meh 2022, 2:00pm

Seminar

Nod y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (RIF) yw nodi modelau y gellir eu copïo a’u hehangu a fydd yn gallu mynd i’r afael â rhai meysydd blaenoriaethol diffiniedig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y RIF yn:
• Sbardun hanfodol i drawsnewid systemau
• Nodi cydrannau 6 Model Gofal,
• Darparu’r hyn sy’n bwysig i gyflawni canlyniadau iechyd a lles i bobl
Mae’r sesiwn hon yn edrych ar ble mae gwirfoddoli yn ffitio yn y darlun hwn – lle gall (ac mae) gwirfoddolwyr yn cael effaith ar sut gallwn ni fesur eu gwerth? Bydd siaradwyr yn disgrifio nodau a disgwyliadau’r RIF, yn awgrymu lle gall gwirfoddolwyr gyfrannu ac yn trafod dulliau o gasglu tystiolaeth o effaith gwirfoddoli.

Cydgynhyrchu a chymryd rhan mewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (PSBs): gwersi a ddysgwyd

Mer 22 Meh 2022, 2:00pm

Zoom

Trafodaeth
Canolig

Mae Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru wedi cael cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i redeg prosiect pum mlynedd, yn cynorthwyo Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (PSBs) i wella eu hymdrechion i gyd-gynhyrchu a chynnwys cymunedau. Yn y sesiwn hon, byddwn ni’n rhoi crynodeb o’r hyn a wnaethon ni yn ein blwyddyn gyntaf, pan luniodd PSBs yr Asesiadau Llesiant a wnaeth wedyn lywio’r Cynlluniau Llesiant a’u gweithrediad; a byddwn ni’n rhannu’r hyn a ddysgwyd o’r profiad ymarferol, sy’n drosglwyddadwy ar draws sectorau. Bydd cyflwyniad byr yn cael ei ddilyn gan sesiwn holi ac ateb a thrafodaeth ar y ffordd ymlaen.

Dysgu am ddim drwy Raglen Hyrwyddwyr OpenLearn – a gyflwynir i chi gan y Brifysgol Agored yng Nghymru

Mer 22 Meh 2022, 2:00pm

Zoom

Seminar

  • A oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu am ddim i helpu i wella’ch sgiliau fel gwirfoddolwr?
  •  A hoffech chi helpu pobl eraill drwy ennyn cariad at ddysgu a chynorthwyo’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw?Os felly, dewch i gael rhagor o wybodaeth am ein Rhaglen Hyrwyddwyr OpenLearn yng Nghymru. Mae OpenLearn yn adnodd ar-lein am ddim gyda mwy nag 1000 o adnoddau dysgu a grëwyd gan bobl academaidd y Brifysgol Agored. Gellir edrych ar amrediad o bynciau; drwy gyrsiau byr, erthyglau, podlediadau, fideos a llawer mwy. Waeth a ydych chi’n chwilio am wibdaith ddysgu pum munud neu hirdaith ddysgu 50 awr, gallwch chi ddod o hyd iddi ar OpenLearn. Ar ôl y gweithdy, byddwch chi’n cael eich gwahodd i fod yn Hyrwyddwr OpenLearn, fel y gallwch chi helpu pobl eraill i gael mynediad at ddysgu am ddim ar OpenLearn.
  • Ail-frandio eich sefydliad – gwersi wrth Cwmpas

    Mer 22 Meh 2022, 2:00pm

    Zoom

    Seminar
    Isel
    Canolradd

    Ym mis Ebrill, cyhoeddodd Canolfan Cydweithredol Cymru ei fod wedi newid ei enw i Cwmpas. Wedi’i sefydlu ym 1982 gan TUC Cymru, sefydlodd y mudiad ei hun fel asiantaeth ddatblygu fwyaf y DU ar gyfer cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol. Roedd yr enw newydd yn arwydd o bennod nesaf yr asiantaeth ddatblygu yn gweithio dros newid economaidd a chymdeithasol. Catherine Evans yw Rheolwr Polisi a Chyfathrebu Cwmpas, a hi arweiniodd yr ail-frandio. Os ydych chi’n meddwl am newid enw neu frand eich mudiad, dewch i glywed profiad Catherine o beth oedd hyn yn ei olygu i Cwmpas, ynghyd â’i syniadau da a’r gwersi a ddysgwyd.

    Dechrau ar eich taith codi arian: sut i ddechrau a beth i’w osgoi

    Mer 22 Meh 2022, 2:00pm

    Zoom

    Seminar

    Gyda’i gilydd, bydd y Rheoleiddiwr Codi Arian a Sefydliad Siartredig Codi Arian Cymru yn cyflwyno cyfranogwyr i hanfodion codi arian a’r hyn y mae angen i fudiadau ei wybod er mwyn cydymffurfio â’r safonau codi arian cyfreithiol a rheoleiddiol, wrth iddyn nhw ehangu i ffrydiau incwm newydd. Drwy edrych ar senarios gwahanol, bydd cyfranogwyr yn deall sut y dylid cymhwyso egwyddorion arfer da er mwyn sicrhau bod eu hymdrechion codi arian yn gyfreithiol, yn agored, yn onest ac yn barchus. Byddwn ni hefyd yn eu cyfeirio at le a sut y gallant ddod o hyd i gymorth ac arweiniad ar gymhwyso’r Cod Arferion Codi Arian, ac yn rhoi rhai syniadau da ar gyfer defnyddio dulliau codi arian penodol.

    Llywio newid – digwyddiadau’r byd a’ch cyllid

    Iau 23 Meh 2022, 10:00am

    Teams

    Seminar

    Newidiodd y byd yn sylweddol yn hanner gyntaf 2022. Byddwn ni’n edrych ar oblygiadau digwyddiadau diweddar ar y dirwedd wleidyddol ac economaidd fyd-eang, a beth allai hyn ei olygu i gyllid eich mudiad. Yn ogystal â’r effaith ar farchnadoedd ariannol, byddwn ni’n ystyried cwestiynau fel:

    Nid ydym wedi gweld chwyddiant mor uchel â hyn ers cenhedlaeth, ac mae wedi achosi ‘argyfwng costau byw’ – pa mor wydn yw eich mudiad i’r risg hon?

    A yw ymosodiad Rwsia ar Wcráin yn drobwynt at ‘gyfalafiaeth rhanddeiliaid’, model mwy cynhwysol a ddylai fod yn fuddiol i bawb mewn cymdeithas, yn hytrach nag i randdeiliaid yn unig? A fyddwch chi’n cael budd ohono?

    Cael cymaint â phosibl o Gynhyrchiant o fewn eich Cyfarfodydd Hybrid, Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol (AGMs) a’ch Digwyddiadau

    Iau 23 Meh 2022, 10:00am

    Teams

    Seminar

    Os ydych chi’n darganfod bod rhwystrau fel amser, argaeledd, costau a lleoliad yn heriol wrth drefnu cyfarfodydd, AGMs a digwyddiadau eraill wyneb yn wyneb, gall dull gweithredu hybrid eich helpu i oresgyn yr holl bethau hyn heb gyfaddawdu ansawdd y profiad a’i ganlyniadau. Ymunwch â ni wrth i ni arddangos yr offer a’r nodweddion diweddaraf a fydd yn eich galluogi i gael cymaint â phosibl o gynhyrchiant o fewn eich cyfarfodydd, AGMs a digwyddiadau hybrid ar Microsoft Teams neu Zoom. Byddwn ni hefyd yn cynnwys astudiaeth achos, gan roi cyfrif go iawn o sut gellir cynnal cyfarfodydd, AGMs a digwyddiadau eraill yn llwyddiannus gan ddefnyddio dull hybrid.

    Lleihau eich Biliau Ynni a’ch Ôl Troed Carbon

    Iau 23 Meh 2022, 10:00am

    Zoom

    Cwestiynau ac atebion
    Seminar
    Canolig
    Dechreuwr

    Yn y weminar llawn gwybodaeth hon a gynhelir gan syrfewyr a chynghorwyr eiddo profiadol, byddwn ni’n eich helpu i leihau eich biliau a’ch ôl troed carbon. Byddwch chi’n cael pecyn gwybodaeth a bydd cyfle am sesiwn holi ac ateb. Bydd y weminar hon yn eich helpu i:
    • Edrych ar eich safle â llygaid newydd ar ôl y pandemig
    • Dod o hyd i ffyrdd cost-effeithiol o wneud eich safle yn fwy gwyrdd
    • Diweddaru eich polisi swyddfa werdd
    • Asesu faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio ar hyn o bryd a’r gost
    • Arbed mwy o ynni er mwyn lleihau biliau ac ôl troed carbon
    • Rheoli’r broses newid: cynnwys ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, staff a defnyddwyr gwasanaethau
    • Creu arferion da er mwyn bod yn gynaliadwy yn yr hirdymor.

    Llywodraethu da – beth yw hyn a sut gellir ei gyflawni

    Iau 23 Meh 2022, 10:00am

    Zoom

    Seminar
    Isel
    Canolradd

    Ydych chi’n Ymddiriedolwr neu’n Gyfarwyddwr Anweithredol Elusen, ac yn ansicr ynghylch yr hyn a ddisgwylir oddi wrthych yn y rôl honno? Neu ydych chi’n aelod o Dîm Uwch-reolwyr o fewn elusen, ac yn ansicr o’ch rhwymedigaethau adrodd i’r Bwrdd? Os ydych chi’n syrthio i un o’r categorïau hyn, dyma’r weminar i chi! Ymunwch â Fflur Jones o Darwin Gray ar daith gyflym o rwymedigaethau Ymddiriedolwyr yn unol â’r gyfraith elusennau, ynghyd â dyletswyddau cyfarwyddwyr anweithredol cwmnïau cyfyngedig trwy warant. Edrychwch ar bwysigrwydd dogfennau llywodraethu eich elusen/mudiad gyda ni, a sut i ddibynnu arnynt a’u dehongli. Yn olaf, byddwn ni’n edrych ar y gwahaniaeth rhwng dyletswyddau timau gweithredol mudiadau, gan gynnwys eu rhwymedigaethau adrodd i’r bwrdd, a pha mor bwysig yw hi i Fyrddau ddiffinio a chymeradwyo strategaethau cyffredinol mudiadau ar gyfer y dyfodol.

    Y Cynnig Cymraeg – Dangoswch eich doniau

    Iau 23 Meh 2022, 12:00pm

    Zoom

    Seminar
    Canolig
    Dechreuwr
    Seminar yn cyflwyno cymorth Tim Hybu Comisiynydd y Gymraeg a’r Cynnig Cymraeg. Byddwn yn egluro beth yw manteision cynnig gwasaneth Gymraeg a sut mae mynd ati i’w gynllunio. Mae derbyn cydnabyddiaeth swyddogol Comisiynydd y Gymraeg i’ch Cynnig Cymraeg yn ffordd wych o roi gwybod i arianwyr bod gyda chi gynllun cadarn mewn lle a dangos i’ch defnyddwyr eich bod yn falch o gynnig gwasnaeth Gymraeg i bobol Cymru.

    Dod yn Fudiad sy’n Ystyriol o Drawma + Anghenion Perthynol

    Iau 23 Meh 2022, 12:00pm

    Zoom

    Seminar

    Platfform yw’r elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol. Fel rhan o ymgyrch cymdeithasol cynyddol, rydyn ni’n credu bod symud i fod yn ystyriol o drawma ac anghenion perthynol yn hanfodol i fynd i’r afael â’r argyfwng iechyd meddwl byd-eang. Trwy ymwreiddio’r ffyrdd o weithio hyn yn ein polisïau, ein harferion a’n dulliau gweithredu, gallwn greu amgylchedd seico-gymdeithasol iach i’n staff a’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi, fel bod pob un ohonom yn cael cyfle i ffynnu. Yn y sgwrs hon, bydd Dr Jen Daffin yn edrych ar sut mae Platfform yn canolbwyntio ar ddyneiddio ei systemau a’u gwneud nhw’n iachach, yn fwy perthynol, yn fwy integredig, yn fwy myfyriol ac yn fwy cysylltiedig.

    Beth allwch chi ei wneud i leihau risgiau seiber i’ch mudiad?

    Iau 23 Meh 2022, 12:00pm

    Zoom

    Seminar

    Mae holl sectorau’r diwydiant dan fygythiad o ymosodiad seiber bob dydd a allai beryglu cywirdeb systemau TG a gwneud eich mudiad yn agored i seiberdrosedd, gan gynnwys cael data wedi’i ddwyn. Gallai hyn beryglu enw da mudiad, tarfu ar ei wasanaethau a’i weithgareddau craidd, ei sancsiynau rheoleiddiol ac, o bosibl, cyflwyno costau ariannol sylweddol na chynlluniwyd ar eu cyfer. Bydd y sesiwn hon yn edrych ar y camau ymarferol y gall mudiad eu cymryd i ddiogelu ei hun, gan gynnwys buddion seiberyswiriant.

    Sesiwn Flasu ar Hyfforddiant Ffrindiau Golwg

    Iau 23 Meh 2022, 12:00pm

    Teams

    Gweithdy
    Canolig
    Dechreuwr

    Sesiwn flasu ar hyfforddiant Ffrindiau Golwg RNIB. “Mae’r siawns o golli’ch golwg yn cynyddu gydag oedran. Ydych chi eisiau dysgu sut i gynorthwyo pobl sydd wedi colli’u golwg i fod yn fwy annibynnol wrth iddyn nhw fynd yn hŷn? Mae Ffrindiau Golwg yn gwrs hyfforddiant ar-lein am ddim a gyllidir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n rhoi’r sgiliau i’r rheini sy’n gweithio gyda phobl hŷn i ddeall anghenion pobl hŷn sydd wedi colli’u golwg. Mae’n rhoi cyngor ar sut i weld bod rhywun yn colli’i olwg, ble i fynd am help a sut i wneud addasiadau i ganiatáu i bobl hŷn fod yn fwy annibynnol. Gall yr hyfforddiant gynyddu llesiant a helpu i leihau’r perygl o gwympo.

    Yr argyfwng costau byw sy’n wynebu pobl anabl

    Iau 23 Meh 2022, 2:00pm

    Teams

    Trafodaeth
    Canolig
    Dechreuwr

    Pobl anabl sy’n cael eu taro’n galetach gan gostau cynyddol. Mae cost uwch prisiau ynni, toriadau i fudd-daliadau pobl anabl a’r costau byw cyffredinol yn creu problem driphlyg i lawer o bobl anabl. Mae pobl anabl ar hyd a lled Cymru wedi dweud eu hofnau wrthym ni o ran methu â fforddio i gynhesu eu cartrefi, prynu bwyd, talu’r costau sy’n ymwneud â’u hamhariad, ac mae angen cymorth ar frys. Byddwn ni’n cyflwyno ein gwaith ymchwil, a gasglwyd o bobl anabl yn uniongyrchol ac yn arwain trafodaeth ar sut gallwn ni fynd i’r afael â’r argyfwng hwn ledled Cymru.

    Ffynnu nawr ac yn y dyfodol – beth sy’n gwneud mudiad gwydn?

    Iau 23 Meh 2022, 2:00pm

    Zoom

    Lansiad
    Canolig
    Dechreuwr

    Mae hwn yn ddigwyddiad i lansio diffiniad a dangosyddion CGGC o wydnwch mudiad a dechreuad model newydd y mae CGGC yn ei greu i gynorthwyo mudiadau gwirfoddol ar eu taith i adeiladu gwydnwch. Y nod yw rhoi diweddariad ar waith CGGC a hefyd i ymgysylltu â’r sector ar y pwnc pwysig hwn. Bydd hwn yn ddigwyddiad rhyngweithiol gyda chyflwyniad, a fydd yn cael ei ddilyn gan sesiynau trafod i gyfranogwyr roi adborth ac ymateb. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau.

    Uwchsgilio eich hun a’ch mudiad gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru

    Gwe 24 Meh 2022, 10:00am

    Zoom

    Gweithdy

    Dewch i gael sgwrs un i un gyda’n tîm.
    • Canfyddwch sut gallwn ni gynorthwyo’ch mudiad i ddatblygu sgiliau staff.
    • Dywedwch wrthym ni am eich anghenion hyfforddi a datblygu, ac fe wnawn ni gynnig rhai datrysiadau i chi.
    • Edrychwch ar yr opsiynau sydd gennym ni, sy’n amrywio o’n prentisiaeth radd mewn peirianneg meddalwedd cymhwysol, rhaglenni israddedig ac ôl-radd, a chyrsiau byr amrywiol, sy’n gallu eich helpu i ddysgu ac uwchsgilio mewn dim o dro.

    Diogelu Iechyd Meddwl gweithwyr yn y gweithle

    Gwe 24 Meh 2022, 10:00am

    Zoom

    Seminar
    Isel
    Canolradd

    Mae pandemig Covid-19 wedi achosi’r aflonyddwch mwyaf arwyddocaol i’r gweithle mewn cenedlaethau. O weithio gartref i absenoldebau sy’n ymwneud â Covid, mae cyflogeion wedi gorfod wynebu heriau sylweddol ac addasu i newidiadau di-ri yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Gyda’r ymchwil yn awgrymu y bydd y straen a’r pwysau sydd wedi’u profi gan gyflogeion yn ystod y pandemig yn debygol o barhau hyd y gellir rhagweld, wrth i ni gynefino â’r “normal newydd”, mae’n bwysicach nag erioed bod cyflogwyr yn blaenoriaethu iechyd meddwl eu gweithlu. Yn ystod y weminar hon, bydd ein harbenigwyr Adnoddau Dynol a Chyflogaeth yn rhoi cyngor ac arweiniad ar gefnogi iechyd meddwl eich gweithlu mewn byd ôl-bandemig. Byddwn ni’n trafod y canlynol:
    • Pan fydd iechyd meddwl gwael cyflogai yn arwain at anabledd a amddiffynnir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac, os felly, beth sydd angen i’r cyflogwr ei wneud;
    • Sut i adnabod arwyddion iechyd meddwl gwael ymhlith staff pan fyddant yn gweithio o bell a sut i gefnogi’r holl gyflogeion â’u hiechyd meddwl; a’r
    • Risgiau o gael pethau’n anghywir neu fethu â gweithredu, gydag astudiaethau achos go iawn sy’n dangos lle mae cyflogwyr wedi cael pethau’n anghywir.

    Hanfodion diogelu – gwneud y peth iawn mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym

    Gwe 24 Meh 2022, 10:00am

    Zoom

    Seminar
    Canolig
    Dechreuwr
    Canolradd

    Plant yng Nghymru yw un o brif ddarparwyr hyfforddiant diogelu yng Nghymru. Mae’n adlewyrchu’r cyd-destun deddfwriaethol, polisi a daearyddol penodol, gan roi pwyslais cryf ar hyrwyddo lleisiau plant a phobl ifanc. Bydd y seminar hon yn rhoi trosolwg o’r canllawiau a’r newidiadau diweddaraf sy’n ymwneud â diogelu yng Nghymru. Bydd y rheini sy’n mynychu yn ystyried arferion da wrth ymdrin â’u polisïau a’u gweithdrefnau. Bydd y sesiwn yn edrych ar bwysigrwydd cael arweinydd diogelu cymwys o fewn eu mudiad, a sut a pham y dylent fod yn archwilio effeithiolrwydd yr hyn y maen nhw’n eu gwneud yn y maes hanfodol hwn o’u gwaith.

    Sut mae poblogaeth Cymru wedi newid yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf?

    Gwe 24 Meh 2022, 10:00am

    Teams

    Seminar
    Isel
    Dechreuwr

    Cyn cyhoeddi data Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno trosolwg o sut mae poblogaeth Cymru wedi newid yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf. Bydd hwn yn cynnwys cymariaethau â rhannau eraill o’r DU, yn ogystal ag edrych yn fanwl ar yr hyn sydd wrth wraidd y newid mewn poblogaeth yng Nghymru, a rhai o’i oblygiadau. Bydd hefyd yn gyfle i chi ddweud wrthym sut rydych chi’n defnyddio’r ystadegau hyn yn eich gwaith, neu sut gallent gael eu defnyddio gennych chi.

    Gofod3
    Gofod3
    ^
    cyWelsh