Gofod3
Gofod3

Archive for Shows

Dysgwch fwy am Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Mer 2 Gorff 2025, 10:30am

Ystafell: G12

Cymraeg
Ydych chi’n ystyried dysgu Cymraeg? Ymunwch â Helen Prosser o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i glywed mwy am y cyrsiau sydd gan y ganolfan i’w cynnig, i chi’n bersonol ac i’ch mudiad.

Mae cydweithio yn allweddol! Yn y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth rydym am weithio gyda chi i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: G9

Iechyd a gofal cymdeithasol
Nod y sesiwn hon yw codi ymwybyddiaeth o’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth a’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth: cod ymarfer. Byddwn yn edrych ar sut gallai’r ddeddfwriaeth hon helpu i gefnogi cydweithrediad gwell a chomisiynu mwy perthnasol, cynhwysol a thryloyw rhwng awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chwmnïau yn y trydydd sector a’r sector gwirfoddol. Nod y cod yw creu arferion comisiynu mwy cyson, gonest a chydweithredol ar hyd a lled Cymru.

Sut mae’r cyhoedd a gwleidyddion yn ystyried y sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru?

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G19

Polisi a gwleidyddiaeth
Ymchwil
Ar ôl dadansoddi data pleidleisio hirdymor, bydd nfpResearch yn datgelu sut mae agweddau cyhoeddus a gwleidyddol tuag at elusennau wedi newid dros y degawd diwethaf. Bydd y sesiwn yn archwilio pedwar maes allweddol sy’n hanfodol i’r sector: Ymddiriedaeth a gwelededd – sut mae elusennau Cymru yn cymharu â’r DU, gan gynnwys eu rôl wrth wynebu heriau Newid arferion rhoi – sut hoffai pobl Cymru i’w harian gael ei wario Y Gymraeg a lleoliaeth – sut gall elusennau Cymru wella eu cyfathrebu â’r cyhoedd Ymgysylltu gwleidyddol – sut gall elusennau ymgysylltu’n effeithiol ag ASau a pharatoi ar gyfer 2026. Bydd y sesiwn hon yn darparu data gwerthfawr a gwybodaeth strategol i elusennau sy’n llywio sector gwirfoddol Cymru sy’n esblygu.

Datgloi haelioni: Cyflwyno elusennau i roi drwy’r gyflogres

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G4

Codi arian
Darganfyddwch sut y gall rhoi drwy’r gyflogres greu ffrwd incwm gynaliadwy i elusennau gan wneud rhoi yn hawdd i roddwyr. Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno elusennau i fanteision rhoi drwy’r gyflogres, sut i ymgysylltu â chyflogwyr, ac arferion gorau ar gyfer llwyddo. Drwy wybodaeth arbenigol ac astudiaethau achos bywyd go iawn, byddwch yn dysgu am strategaethau y gellir eu gweithredu i wneud y mwyaf o roddion a chryfhau perthnasoedd â phartneriaid corfforaethol. P’un a ydych yn newydd i roi drwy’r gyflogres neu’n awyddus i wella’ch rhaglen, bydd y sesiwn hon yn rhoi arweiniad ymarferol i hybu ymgysylltiad ac effaith rhoddwyr.

Dechrau eich taith sero net: Camau ymarferol ar gyfer elusennau a mudiadau nid er elw

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G11

Ynni
Gall cychwyn ar y llwybr tuag at sero net deimlo’n llethol, ond gall pob mudiad gymryd camau ystyrlon i leihau ei ôl troed carbon. Ymunwch ag Utility Aid i gychwyn ar eich taith gynaliadwyedd. Bydd y sesiwn hon yn rhoi arweiniad ymarferol ar effeithlonrwydd ynni, mesurau arbed costau, a strategaethau syml i ddechrau ar eich taith sero net. Dysgwch sut i gael effaith wirioneddol wrth aros yn gynaliadwy’n ariannol. P’un a ydych newydd ddechrau neu’n awyddus i gyflymu eich cynnydd, bydd y sgwrs hon yn rhoi’r wybodaeth a’r offer i chi weithredu.

Y cyfryngau cymdeithasol a fy mhlentyn: Oes rhywbeth y dylwn ei wybod?

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G5

Diogelu
Mae’r gweithdy amserol hwn yn edrych ar berthynas pobl ifanc â’r cyfryngau cymdeithasol a’r problemau sy’n codi i bobl ifanc a rhieni. Byddwch yn dysgu sut i helpu ein pobl ifanc a beth allwn ni ei wneud am broblemau pan fyddan nhw’n codi.

Naid ddigidol Cymru – Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial fel uwch-bŵer i hybu gallu’r trydydd sector

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G6

AI
Digidol
Mae elusennau Cymru yn wynebu heriau mawr, fel gormod o waith papur a diffyg adnoddau. Gall Deallusrwydd Artiffisial helpu drwy wneud tasgau diflas yn gyflym a rhyddhau amser ar gyfer gwaith arall. Yn y sesiwn hon, byddwch yn gweld Deallusrwydd Artiffisial ar waith ac yn dysgu sut i’w ddefnyddio ar gyfer eich mudiad. Ar ôl y sesiwn, bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn canllaw digidol er mwyn ail-ymgysylltu â’u dysgu. Dewch i ddysgu sut gall Deallusrwydd Artiffisial roi hwb i’ch cynhyrchiant a’ch helpu i wasanaethu eich cymuned yn well!

Tuag at greu Rhwydwaith Cymru ar gyfer Cynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G7

Iechyd a gofal cymdeithasol
Mae Cynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol, sy’n cael eu hadnabod fel ‘Cynrychiolwyr Cynghorau Gwirfoddol Sirol’ neu ‘Gynrychiolwyr Trydydd Sector’ fel arfer, yn cymryd rhan mewn Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ledled Cymru, ond eto amser gwirfoddol yw hwn i raddau helaeth, gyda dim ond ychydig o gymorth i’r rhai sy’n ymgymryd â’r rôl. Mae hyn yn golygu nad oes rhwydwaith sefydledig i gynrychiolwyr gysylltu a rhannu eu profiadau, eu heriau a’r arferion gorau o’u meysydd priodol. Mae’r sesiwn hon yn gwahodd Cynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol am sgwrs gychwynnol gyda’r bwriad o sefydlu rhwydwaith genedlaethol. Ei nod yw llunio agenda ddrafft ar gyfer cyfarfod cyntaf Cymru gyfan o Gynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn y dyfodol.

Gwobr Dug Caeredin: Effaith a chyfle

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G8

Gwirfoddoli
Mae hon yn sesiwn sy’n cynnig cyfle i fudiadau ieuenctid y sector gwirfoddol ddysgu mwy am Wobr Dug Caeredin. Bydd mynychwyr yn gadael y sesiwn gyda gwell dealltwriaeth o’r canlynol: yr effaith gadarnhaol y gall y Wobr ei chael ar bobl ifanc sy’n cymryd rhan sut caiff y rhaglen ei chyflwyno sut i ddod yn bartner cyflawni Gwobr Dug Caeredin.

Cymhorthfa llywodraethu

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G13

Llywodraethu
Bydd Rheolwr Llywodraethu CGGC ar gael i drafod unrhyw ymholiadau llywodraethu a allai fod gennych mewn cymhorthfa breifat 20 munud. Archebwch eich slot amser ymlaen llaw a rhowch drosolwg byr i ni o’r pynciau yr hoffech eu trafod. Bydd hyn yn caniatáu cydweithio â thimau eraill CGGC ac arwain at gyngor mwy effeithiol.
Gofod3
^
cyWelsh