Ymunwch â Sefydliad Siartredig Codi Arian Cymru mewn sesiwn rymuso sydd wedi’i dylunio’n benodol ar gyfer codwyr arian a fydd yn archwilio strategaethau hanfodol i wella gwydnwch a llesiant ym maes heriol codi arian.
Bydd y sesiwn hon yn rhannu gwybodaeth ac offer ymarferol ar gyfer:
- osgoi chwythu’ch plwc
- buddsoddi yn eich dysgu a’ch datblygiad proffesiynol
- manteisio ar y cymorth sydd ar gael gan y gymuned codi arian ehangach.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Luma fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.