Beth sy’n mynd ymlaen mewn gwirionedd yn y sector gwirfoddol yng Nghymru? Helpwch ni i ddatgelu’r gwir.
Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan yn y gwaith o lunio Baromedr Sector Gwirfoddol Cymru – cydweithrediad newydd rhwng CGGC, Llywodraeth Cymru ac Arsyllfa Data a Mewnwelediadau Sector Gwirfoddol, Cymunedol a Menter Gymdeithasol (VCSE) Prifysgol Nottingham Trent University.
Nod y fenter hon yw llenwi bwlch pwysig: cyflwyno tystiolaeth amserol a dibynadwy ynghylch y sector gwirfoddol yng Nghymru er mwyn cefnogi penderfyniadau gwell, cefnogaeth gryfach a chyllid mwy effeithiol.
Y sesiwn hon yw eich cyfle i:
- Rannu’r math o fewnwelediad a fyddai’n fwyaf defnyddiol yn eich gwaith
- Helpu i nodi’r cwestiynau allweddol y dylem fod yn eu gofyn
- Cyfrannu at gyd-gynhyrchu adnodd sy’n adlewyrchu cryfderau ac anghenion go iawn y sector
Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn adeiladu rhywbeth ystyrlon – adnodd sy’n ein helpu i ddeall lle rydym ni, lle rydym yn anelu amdano, a sut gallwn gefnogi dyfodol y sector.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Luma fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.