Gofod3
Gofod3

Archive for Shows

Mesur tymheredd y sector: Cyflwyno baromedr Sector Gwirfoddol Cymru

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G5

Polisi a gwleidyddiaeth
Ymchwil
Beth sy’n mynd ymlaen mewn gwirionedd yn y sector gwirfoddol yng Nghymru? Helpwch ni i ddatgelu’r gwir. Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan yn y gwaith o lunio Baromedr Sector Gwirfoddol Cymru – cydweithrediad newydd rhwng CGGC, Llywodraeth Cymru ac Arsyllfa Data a Mewnwelediadau Sector Gwirfoddol, Cymunedol a Menter Gymdeithasol (VCSE) Prifysgol Nottingham Trent University. Nod y fenter hon yw llenwi bwlch pwysig: cyflwyno tystiolaeth amserol a dibynadwy ynghylch y sector gwirfoddol yng Nghymru er mwyn cefnogi penderfyniadau gwell, cefnogaeth gryfach a chyllid mwy effeithiol. Y sesiwn hon yw eich cyfle i: Rannu’r math o fewnwelediad a fyddai’n fwyaf defnyddiol yn eich gwaith Helpu i nodi’r cwestiynau allweddol y dylem fod yn eu gofyn Cyfrannu at gyd-gynhyrchu adnodd sy’n adlewyrchu cryfderau ac anghenion go iawn y sector Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn adeiladu rhywbeth ystyrlon – adnodd sy’n ein helpu i ddeall lle rydym ni, lle rydym yn anelu amdano, a sut gallwn gefnogi dyfodol y sector.

Cyflawni’r Cynllun Seibiant Byr cenedlaethol yn y sector gwirfoddol: harneisio’r effaith a’r dysgu

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G19

Gofalwyr
Iechyd a gofal cymdeithasol
Bydd y sesiwn hon yn arddangos effaith y Cynllun Seibiant Byr hyd yma drwy rannu profiadau gofalwyr di-dâl sydd wedi manteisio ar y cynllun. Bydd cyfle i glywed gan banel o fudiadau yn y sector gwirfoddol sy’n darparu seibiannau byr o dan Grant Amser yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Manteisiwch ar y cyfle i ddysgu gan yr elusennau sy’n darparu seibiannau i ofalwyr wrth i ni edrych ar ddyfodol seibiannau byr i ofalwyr di-dâl yng Nghymru.

Deall y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G11

Iechyd a gofal cymdeithasol
Iechyd meddwl
Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno gwaith y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol hyd yma, ac yn gwahodd ymgysylltiad gan fudiadau eraill. Gweithdy fydd y sesiwn hon sy’n nodi ei themâu allweddol ac yn rhoi cyfle i gyfranogwyr wneud awgrymiadau a chysylltu â’r rhaglen waith hon.

Mae dyfodol trafnidiaeth Cymru yn perthyn i ni gyd – gosod y gymuned wrth wraidd datblygu trafnidiaeth

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G2

Polisi a gwleidyddiaeth
Mae trafnidiaeth yn sail i’n bywydau. Os caiff pethau eu gwneud yn iawn, mae’n agor cyfleoedd addysg a chyflogaeth, gan ein galluogi i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, ein cefnogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau a grwpiau cymunedol, mynd i siopa neu fynd i apwyntiadau ysbyty. Gyda chymaint o bobl a rhannau o Gymru wedi’u heithrio o’r rhwydwaith trafnidiaeth prif ffrwd ar hyn o bryd, bydd y sesiwn hon yn ystyried sut mae’r Bil Bysiau newydd yn cynnig cyfle i feddwl y tu hwnt i fersiwn unfath o’r hyn sydd ganddon ni eisoes i ddylunio system drafnidiaeth sy’n gweithio i bob un ohonon ni.

Ffynnu wrth godi arian: Meithrin gwydnwch a llesiant

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G3

Codi arian
Lles
Ymunwch â Sefydliad Siartredig Codi Arian Cymru mewn sesiwn rymuso sydd wedi’i dylunio’n benodol ar gyfer codwyr arian a fydd yn archwilio strategaethau hanfodol i wella gwydnwch a llesiant ym maes heriol codi arian. Bydd y sesiwn hon yn rhannu gwybodaeth ac offer ymarferol ar gyfer: osgoi chwythu’ch plwc buddsoddi yn eich dysgu a’ch datblygiad proffesiynol manteisio ar y cymorth sydd ar gael gan y gymuned codi arian ehangach.

Cynnwys cymunedau ar gyfer cydlyniant cymdeithasol

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: gofod3 theatre

Datblygu cymunedol
Polisi a gwleidyddiaeth
Mae hon yn sesiwn sy’n cael ei chynnal ar y cyd rhwng Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Sefydliad Banc Lloyds. Rydyn ni i gyd eisiau cymdeithas ac economi sy’n gweithio i bawb. Mae gan y sector gwirfoddol a chymdeithas sifil, yn fwy cyffredinol, ran allweddol i’w chwarae i wireddu hyn. Ymunwch â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Sefydliad Banc Lloyds sy’n rhannu gweledigaeth o greu cymunedau cydlynol, teg, a ffyniannus, er mwyn datblygu’r sgwrs ynghylch rôl mudiadau cymunedol wrth sicrhau llesiant i bawb. Bydd y drafodaeth bord gron hon yn archwilio cwestiynau hanfodol fel: Sut gallwn ni gynyddu ymgysylltiad dinasyddion a’u hymddiriedaeth yn y broses o wneud penderfyniadau yn ystod cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol? Sut mae cydlyniant cymdeithasol yn cyd-fynd â hyn? Sut gallwn ni sicrhau bod y bobl sy’n gwneud penderfyniadau wir yn gwrando ar leisiau a phrofiadau pobl sydd wedi’u hymyleiddio neu sydd mewn amgylchiadau anodd ac yn eu gwerthfawrogi? Beth yw rôl cydweithio traws-sectorol wrth greu cyfleoedd i drafod? Siaradwyr: Rhian Cahill – Datblygiadau Egni Gwledig (DEG) Cherrie Bija – Faith in Families Emily Reddy – Cyngor Wrecsam Chris Johnes – Yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau Sarah Mackintosh – Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin Anirban Mukhopadhyay – Kiran Cymru Cymedrolwyd gan: Sabiha Azad – Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chyn-fyfyrwyr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol

Arweiniwch y ffordd gyda deallusrwydd artiffisial (AI) arloesol yn y Gymraeg

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G9

AI
Digidol
Ymunwch ag un o Gyflenwyr Dibynadwy CGGC, Pugh Computers, am sesiwn ddiddorol llawn arloesedd AI a diweddariadau cyffrous. Rhyddhewch bŵer Microsoft Copilot AI AM DDIM i symleiddio ffrydiau gwaith a gwella creadigrwydd. Dysgwch sut mae Copilot a Microsoft Teams yn cyfuno’n ddi-dor i ddarparu cyfieithiadau Cymraeg o fewn eiliadau. Grymuswch eich tîm gyda datrysiadau gweithio hybrid wedi’u teilwra, gan gynnwys technoleg ystafell gyfarfod a phecynnau gweithio gartref wedi’u hardystio gan Teams Arferion gorau wrth ymdrin â diogelu data a llywodraethu gyda rheoliadau diogelwch a dogfennau gorau M365.

Arwain diwylliant dwyieithog cadarnhaol

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G12

Cymraeg
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar sut y gallwch ddatblygu diwylliant cadarnhaol o ddwyieithrwydd Cymraeg- Saesneg yn eich mudiad. Byddwch yn clywed gan arweinwyr o fewn CGGC a’u profiad o gwrs Llywodraeth Cymru Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog a sut mae wedi helpu i drawsnewid y ffordd y defnyddir ac ystyrir y Gymraeg o fewn y mudiad. Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal yn ddwyieithog ac nid oes angen i chi allu siarad Cymraeg i ymuno.

Astudiaeth achos: Ambiwlans Awyr Cymru- Gwreiddio’r Gymraeg yng nghalon mudiad

Mer 2 Gorff 2025, 11:00am

Ystafell: G12

Cymraeg
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cymryd camau arwyddocaol i gryfhau eu darpariaeth Gymraeg, dan arweiniad eu strategaeth bum mlynedd. Yn y sesiwn hon, byddant yn rhannu eu taith, o lansio Polisi a Chynllun Iaith Gymraeg newydd i ymgysylltu â’u staff i adeiladu cefnogaeth i’r iaith. Bydd y sesiwn yn archwilio sut y gwnaethant groesawu hunaniaeth Gymreig mewn ffordd gynhwysol, ystyrlon, yr heriau a wynebwyd ganddynt, a sut y gwnaethant eu goresgyn. Mae hon yn stori am wreiddio’r Gymraeg yng nghalon eu mudiad, gyda llwybr clir o’u blaenau.

Lansio’r weledigaeth gwirfoddoli newydd

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: gofod3 theatre

Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn elfen allweddol o gydlyniant cymunedol, a llesiant unigol a chyfunol. Cyrhaeddwyd y garreg filltir genedlaethol i gael 30% o bobl yn gwirfoddoli yn 2022-23, ond sut allwn ni gynnal ac adeiladu ar hyn? Sut allwn ni oresgyn rhai o’r heriau o ran recriwtio a chadw gwirfoddolwyr y mae’r sector wedi’u profi ers 2023? Lansio’r weledigaeth gwirfoddoli newydd : Jane Hutt MS – Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip Baroness Tanni Grey-Thompson Anthony Hunt – Arweinydd Awdurdod Lleol Torfaen Nick Speed – Pennaeth Gwledydd a Rhanbarthau BT, Polisi a Materion Cyhoeddus Aelodau’r panel: Derek Walker – Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru Lindsay Cordery-Bruce – Prif Weithredwr CGGC Mark Simms – Cadeirydd dros dro’r Comisiwn Elusennau Anthony Hunt – LArweinydd Awdurdod Lleol Torfaen Lowri Williams – Arweinydd Ieuenctid Cymru, Sgowtiaid Cymru Cymedrolwyd gan: Sabiha Azad – Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chyn-fyfyrwyr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol Dan Mapatac – Cynfyfyriwr FGLA Restless Development
Gofod3
^
cyWelsh