Baromedr Cymru: Mewnwelediadau o'r tair ton gyntaf
Mehefin 17 @ 11:20 am - 12:10 pm
Baromedr Cymru yw’r arolwg dwyieithog, chwarterol cyntaf sy’n mapio tueddiadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru, a drefnir gan CGGC a Phrifysgol Nottingham Trent. Yn gyfnewid am gwblhau arolwg byr bob chwarter, mae cyfranogwyr yn derbyn data wedi’i bersonoli i gefnogi ceisiadau am gyllid a llywio sgyrsiau gyda rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
Ymunwch â CGGC ac Arsyllfa Mentrau Cymdeithasol Cymunedol Gwirfoddol i archwilio canfyddiadau o’r tair ton gyntaf, clywed sut mae’r data eisoes wedi dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, a dysgu sut i gymryd rhan.