Egluro cyfranddaliadau cymunedol
Mehefin 17 @ 1:30 pm - 2:20 pm
Ydych chi wedi clywed am y cyffro ynghylch cyfranddaliadau cymunedol, ond heb ddeall yn llawn beth mae’n ei olygu? Caiff y dirgelwch ei ddatgloi yn y sesiwn fer hon gan Cwmpas, a fydd yn rhoi trosolwg syml, clir ac ysbrydoledig o gyfranddaliadau cymunedol, gan gynnwys beth ydyn nhw a sut maen nhw’n gweithio. Bydd y sesiwn hon yn egluro pryd y gellir defnyddio cyfranddaliadau cymunedol, sut y gallant gyd-fynd â mentrau codi arian eraill ac archwilio astudiaethau achos llwyddiannus. Dyma eich cyfle i ofyn y cwestiwn pwysig hwnnw rydych chi wedi bod yn aros i gael ateb iddo.