Strategaethau arbed arian ar gyfer eich cyfleustodau
Mehefin 17 @ 2:30 pm - 3:20 pm
Os ydych chi eisiau cymryd y llyw gyda’ch cyfleustodau ac arbed arian go iawn, mae’r sesiwn hon yn bwynt dechrau gwych. Mae Utility Aid yn cynnal gweithdy ymarferol heb jargon sydd wedi’i ddylunio i unrhyw un sydd wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros gyfleustodau yn ddiweddar ac eisiau teimlo’n fwy hyderus yn eu rheoli.
Bydd y sesiwn hon yn dadansoddi sut i ddarllen a llwyr ddeall eich biliau, yn amlygu meysydd cyffredin lle collir arbedion yn aml ac yn cyflwyno newidiadau syml a all gyflwyno enillion cyflym i chi. Bydd y sesiwn hefyd yn edrych ar fuddion posibl prynu cyfunol a sut gall hyn helpu i leihau costau yn yr hirdymor.