O argyfwng i ganlyniadau: Dull GISDA i gefnogi pobl ifanc bregus
Mehefin 17 @ 10:20 am - 11:10 am
Yng Nghymru mae nifer fawr o bobl ifanc yn ddi-waith ac yn dioddef o or-bryder. Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno sut mae GISDA yn gweithio’n effeithiol gyda phobl ifanc bregus a digartref, a swyddogaeth hybiau ymyrraeth cynnar i daclo’r broblem. Bydd y tîm yn trafod pwysigrwydd cyd-gynhyrchu, hawliau pobl ifanc a llais yr unigolyn yn ogystâl â’r dull therapwitig o weithio a deall pobl ifanc sydd wedi dioddef trawma.
Dyma gyfle felly i ddysgu am eu gwaith cynhwysfar: o fewn hosteli, effeithiolrwydd addysg amgen, cefnogaeth iechyd meddwl, ymyrraethau creadigol a hamdden a sut mae’r cyfan yn dod at ei gilydd i sicrhau canlyniadau da.