- This event has passed.
gofod3: Adeiladu cymunedau cydlynol
Mehefin 17 @ 3:30 pm - 4:10 pm
Ymunwch â ni am sgwrs gyda Ruth Marks CBE, Comisiynydd y Comisiwn Annibynnol ar Gymuned a Chydlyniant. Gan dynnu ar ei phrofiad o weithio ar draws cymdeithas sifil, byddwn yn archwilio’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector gwirfoddol wrth adeiladu cymunedau cryfach, mwy cynhwysol, gwydn a chysylltiedig.
Bydd y drafodaeth hefyd yn myfyrio ar sgwrs genedlaethol barhaus y Comisiwn ar gymunedau a chydlyniant, sy’n ymgysylltu â phobl ledled y DU i ddeall yn well y materion sy’n ffurfio ymddiriedaeth, perthyn, cyfranogiad a chysylltiad cymdeithasol. Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i ystyried sut y gall mewnwelediadau o’r ddeialog genedlaethol hon lywio gwaith elusennau, mudiadau cymunedol, ac arweinwyr lleol.