gofod3: Dyfodol y gweithle
** Sylwch fod hon yn sesiwn estynedig a fydd yn rhedeg rhwng 12.20-13.20. Mae croeso i chi ddod â’ch cinio gyda chi i’r theatr**
Mae’r byd gwaith yn esblygu’n gyflym, ac nid yw’r sector gwirfoddol yn eithriad. O fodelau gweithio hybrid a thrawsnewid digidol i les staff ac arweinyddiaeth gynhwysol, mae mudiadau’n ailfeddwl sut maen nhw’n gweithredu i wasanaethu eu cymunedau yn well a chefnogi eu pobl. Ymunwch â ni i glywed gan un o’r lleisiau blaenllaw ar weithio hyblyg, yr ymgyrchydd a’r newyddiadurwraig Anna Whithouse (aka Mother Pukka) ac yna trafodaeth banel ryngweithiol sy’n dod ag arweinwyr ac ymarferwyr o bob rhan o wahanol sectorau at ei gilydd i archwilio sut olwg sydd ar weithle yfory. Mae’r panel, dan gadeiryddiaeth Fflur Jones, Partner Rheoli Darwin Gray, yn cynnwys:
- Anna Whitehouse, Ymgyrchydd a newyddiadurwraig
- Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg
- Oliver Williams, Arweinydd Iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Annabelle Llanes Sierra, Rheolwr Ymgysylltu, Cymru ar gyfer CIPD
- Michelle Reid, Prif Weithredwr, Merthyr Valleys Homes