- This event has passed.
gofod3: Lleisiau wrth y Llyw
Mehefin 17 @ 9:30 am - 10:10 am
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Dirprwy Brif Weinidog newydd Cymru, Sioned Willams, yn rhoi anerchiad yn ystod y sesiwn agoriadol hon yn gofod3. Bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth newydd Cymru ar gyfer cryfhau ei phartneriaeth â’r sector gwirfoddol a chymunedau ledled Cymru. Bydd yr anerchiad yn edrych ar sut gall y llywodraeth a mudiadau gwirfoddol weithio gyda’i gilydd i gyflawni canlyniadau gwell i bobl, trechu anghydraddoldeb, cefnogi cymunedau sy’n agored i niwed ac adeiladu cymunedau tecach, mwy diogel ac unedig.