Sgwrs â'r Brifysgol Agored yng Nghymru
Mehefin 17 @ 10:20 am - 11:10 am
Mae’r Brifysgol Agored yn angerddol am wneud dysgu o safon yn hygyrch i’r sector gwirfoddol, ac mae eisoes yn cefnogi gwirfoddolwyr a staff drwy ei rhaglen hyfforddi ‘Elwa Drwy Wirfoddoli’, gan gynnig cyrsiau sgiliau a hyder am ddim. Eto gellid gwneud mwy.
Dyma eich cyfle i ddysgu am y cyrsiau sydd ar gael, a llunio sut y gallai’r rhaglen edrych yn y dyfodol. Ymunwch â’r Brifysgol Agored i helpu’r tîm i ddeall beth sydd ei angen ar y sector gwirfoddol, beth sydd ar goll, a sut y gallant gefnogi’r gwaith anhygoel sy’n mynd rhagddo ledled Cymru yn well.