Dysgwch fwy am Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Mehefin 17 @ 10:20 am - 11:10 am
Dewch i ddarganfod mwy am waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a sut rydym yn cefnogi unigolion a sefydliadau i ddatblygu sgiliau Cymraeg yn hyderus ac yn ymarferol, drwy gynlluniau ac adnoddau wedi’u teilwra ar gyfer y gweithle. Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yw’r sefydliad sy’n arwain ac yn cydlynu’r sector Dysgu Cymraeg yng Nghymru, gan osod cyfeiriad strategol, sicrhau safon ac ehangu mynediad at gyfleoedd dysgu. Trwy ddarparu llwybr clir o’r cam cyntaf hyd at hyfedredd, rydym yn galluogi mwy o bobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus yn eu bywydau bob dydd ac yn y gweithle.