Mwy na geiriau yn unig: Creu diwylliant ystyrlon ac effeithiol sy'n seiliedig ar gryfderau
Sonnir yn aml am weithio yn seiliedig ar gryfderau, ond sut olwg sydd ar hyn yn ymarferol mewn gwirionedd? Mae’r gweithdy rhyngweithiol hwn yn archwilio sut i greu diwylliant mewnol gwirioneddol gefnogol, gan ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau i adeiladu timau effeithiol. Mae’r sesiwn yn mynd i’r afael â thri chwestiwn allweddol: sut i feithrin profiad bywyd ac angerdd i wasanaethu eich buddiolwyr yn well; sut i alluogi pawb yn eich mudiad i gyfrannu yn y ffordd orau; a beth all helpu neu herio’ch dull gweithredu, a sut i osgoi trafferthion posibl.
Byddwch yn gadael gyda darlun cliriach o’r safbwyntiau a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant yn eich mudiad eich hun, a syniadau ymarferol ar gyfer dod o hyd iddynt a’u datblygu ar draws staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid.