Symud gofal canser yn agosach at adref
Mehefin 17 @ 10:20 am - 11:10 am
Mae bron i 3.5 miliwn o bobl yn byw gyda chanser yn y DU. Mae’r nifer hwnnw’n cynyddu ac erbyn 2030 bydd y ffigur hwn yn codi i 4 miliwn. Mae Macmillan wedi treulio mwy na 100 mlynedd yn helpu pobl sy’n byw gyda chanser. O’r eiliad y mae rhywun yn cael diagnosis o ganser, mae Macmillan yno gyda’r holl wybodaeth, cefnogaeth ac arweiniad sydd eu hangen arnynt, i helpu pawb â chanser i fyw bywyd mor llawn ag y gallant.
Dewch draw i’r gweithdy diddorol hwn i ganfod sut y gall y sector gwirfoddol gefnogi symud gofal canser i’r gymuned.