Mynediad Agored: Troi'r system iechyd meddwl 'y tu chwith allan'
Mehefin 17 @ 1:30 pm - 2:20 pm
Ymunwch â’r sgwrs ddifyr hon ar yr heriau y gall pobl eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at gymorth, a sut y gallai dull gweithredu sy’n dod i’r amlwg ac sy’n troi’r system bresennol y tu chwith allan fod yr ateb. Byddwch yn clywed gan ddau brosiect gwahanol am sut mae’r gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig yn darparu math gwahanol o gymorth pan fydd ei angen ar bobl. Mae Platfform yn gweithio gyda phobl sy’n profi heriau gyda’u hiechyd meddwl, a gyda chymunedau sydd eisiau creu mwy o ymdeimlad o gysylltiad, perchnogaeth a llesiant yn y mannau y maen nhw’n byw ynddynt.