Heriau tebyg, lleoedd gwahanol: Gofod i gynrychiolwyr y sector gwirfoddol gysylltu
Mehefin 17 @ 2:30 pm - 3:20 pm
Ydych chi’n gynrychiolydd sector gwirfoddol ar fwrdd partneriaeth rhanbarthol neu fwrdd gwasanaethau cyhoeddus? A hoffech chi gwrdd â chynrychiolwyr eraill ledled Cymru? A oes gennych chi ddiddordeb mewn cynrychioli’r sector gwirfoddol mewn sgyrsiau â chyrff cyhoeddus a strwythurau strategol?
Bydd hon yn drafodaeth wedi’i hwyluso mewn gofod diogel i chi rannu, dysgu a myfyrio ar eich profiadau fel arweinwyr sector gwirfoddol yng Nghymru. Thema’r drafodaeth fydd ‘Cymru fel Cenedl Marmot’. Ym Mehefin 2025, daeth Cymru yn Genedl Marmot gyntaf y byd, yn ymrwymedig i drechu anghydraddoldebau iechyd trwy fynd i’r afael â’r cyflyrau sy’n wynebu pobl yn eu genedigaeth, eu magwraeth, eu bywyd a’u gwaith.