Mae'r Senedd newydd yma: beth nesaf?
Mehefin 17 @ 1:30 pm - 2:20 pm
Ar 7 Mai 2026, pleidleisiodd pobl Cymru yn un o’r etholiadau mwyaf cystadleuol ac anrhagweladwy yn y Senedd ers dechrau datganoli. Dim ond chwe wythnos yn ddiweddarach, ymunwch â thîm Polisi CGGC i gael ôl-drafodaeth amserol ar yr hyn y mae’r canlyniadau’n ei olygu i’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Archwiliwch gyfansoddiad y Senedd newydd, beth mae maniffestos gwahanol bleidiau yn eu golygu i fudiadau gwirfoddol, a’r newidiadau allweddol a ddaeth wrth ehangu’r Senedd o 60 i 96 o aelodau. Pa gyfleoedd sydd o’n blaenau a beth ddylai’r sector fod yn ei wneud ar hyn o bryd?