Sbarduno newid dan arweiniad y gymuned yng Nghymru
Mehefin 17 @ 1:30 pm - 2:20 pm
Mae llawer o gymunedau yng Nghymru yn teimlo effeithiau anghydraddoldeb a rhaniadau, ac eto mae arweinwyr ysbrydoledig lleol yn parhau i weithio’n ddiflin i uno pobl, meithrin cysylltiadau ystyrlon a thrawsnewid lleoedd drwy weithredu dan arweiniad y gymuned. Bydd y panel hwn yn edrych ar sut mae’r arweinwyr hyn yn harneisio cryfderau lleol i bontio rhaniadau, magu ymdeimlad o berthyn a mynd i’r afael â heriau gyda chreadigrwydd a gwydnwch.
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar beth yn gwmws sy’n galluogi pŵer cymunedol i ffynnu. Fel aelod o’r gynulleidfa, byddwch chi’n darganfod strategaethau ymarferol ar gyfer adeiladu cymunedau cydlynol, ffyniannus, a sut gallwch chi hefyd gyfrannu at newid positif, parhaol yn eich ardal chi.