Defnyddio data poblogaeth Cymru ar gyfer ceisiadau cyllid cryfach
Mehefin 17 @ 1:30 pm - 2:20 pm
Nod y gweithdy hwn yw helpu staff y sector gwirfoddol i ddeall pa ddata poblogaeth sydd ar gael yng Nghymru, ble i ddod o hyd iddo, a sut y gall gefnogi adroddiadau a cheisiadau cyllid. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyniad i ffynonellau hawdd eu cyrchu, megis dangosfyrddau Iechyd Cyhoeddus Cymru, data poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac ystadegau Llywodraeth Cymru, ac esboniad am yr hyn y gall pob set ddata ei ddweud wrthych ac na all ei ddweud. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio data i ddangos angen lleol, tynnu sylw at anghydraddoldebau, a gwneud achos cryfach dros gyllid. Bydd y sesiwn hefyd yn ymdrin â heriau cyffredin, fel bylchau mewn data sy’n benodol i Gymru, ac yn cynnwys sesiwn holi ac ateb byr.