A yw effaith ar agenda eich mudiad? A ydych chi eisiau dod yn well am ddangos a chyfathrebu’r gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud? Cyflwyniad i fesur effaith yw’r seminar hon ar gyfer mudiadau’r sector gwirfoddol. Bydd yn ymdrin â’r prif agweddau ar lunio fframwaith mesur effaith, gan gynnwys: damcaniaeth newid, dewis beth i’w fesur, mathau o ddata, offer ar gyfer casglu data ac o le i ddod o hyd i fwy o adnoddau, a bydd cyfle i ofyn cwestiynau. Digwyddiad sylfaenol, rhagarweiniol yw hwn ac ni thybir fod gan unrhyw un wybodaeth flaenorol.
Mae cwcis wedi'u Hanalluogi
Marketing and statistics
Addasu eich dewisiadauDefnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn WCVA rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd WCVA i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Eventbrite i gael gwybod sut maent hwythau’n defnyddio’ch gwybodaeth.