Wrth i brisiau godi, beth yw rôl y trydydd sector o ran lleddfu’r pwysau? Gydag incwm yn weddol sefydlog a phrisiau'n codi, mae llawer o gartrefi yn troi at elusennau i gadw eu pennau uwchben y dŵr. Mae banciau bwyd, banciau gwisg ysgol, canolfannau ailddefnyddio dodrefn a llochesi digartrefedd – er enghraifft – wedi dod yn rhan sefydledig o’r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt. Gellir dadlau eu bod bellach yn rhan o’r wladwriaeth les ehangach. Ond ydy hyn yn iawn?
Ymunwch â’n panel am drafodaeth banel fywiog am ymatebion elusennau a grwpiau cymunedol i’r argyfwng costau byw. • ydy elusennau yn gadael llywodraethau ‘oddi ar y bachyn’ drwy ddarparu gwasanaethau hanfodol? • pa werth y mae'r trydydd sector yn ei ychwanegu at wasanaethau a ddarperir gan y wladwriaeth? • a yw mudiadau trydydd sector yn cael eu had-dalu'n briodol am ddarparu cymorth hanfodol?
Ar y panel bydd: – Frances Beecher, Prif Weithredwr Llamau; Prif elusen ddigartrefedd pobl ifanc a menywod Cymru – Sarah Stone yw Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru ar gyfer y Samariaid. Mae Sarah yn aelod o Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar atal hunanladdiad a hunan-niwed i Lywodraeth Cymru, Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru a grŵp Arweinyddiaeth Strategol Cymru Well Wales – Steffan Evans, Pennaeth Polisi (Tlodi), Sefydliad Bevan
Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan fydd yn cadeirio’r panel.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma

Zoom
Mae cwcis wedi'u Hanalluogi
Marketing and statistics
Addasu eich dewisiadauDefnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn WCVA rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd WCVA i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Eventbrite i gael gwybod sut maent hwythau’n defnyddio’ch gwybodaeth.