I lawer o fudiadau, gall fod yn anodd siarad am effeithiau tebygol y newid yn yr hinsawdd gyda’u cefnogwyr neu fuddiolwyr. Gall dryswch o ran y peth gorau i’w wneud neu deimlo’n ddiymadferth gyda graddfa’r her fod yn ddigon i lethu rhywun. Mae Cynnal Cymru wedi bod yn helpu mudiadau o bob sector i gael y sgyrsiau hyn â’u cymheiriaid ers ein sefydliad yn 2002. Mae’n rhan o’n gweledigaeth i Gymru ynghyd ag economi carbon isel, cymdeithas deg a chyfiawn ac amgylchedd naturiol sy’n ffynnu. Heddiw, ni yw partner swyddogol y prosiect Llythrennedd Carbon yng Nghymru ac rydyn ni wedi helpu i hyfforddi cymdeithasau tai, grwpiau cymunedol, awdurdodau lleol, cynghorwyr ac aelodau Bwrdd. Gwnaethom ni hefyd helpu i ymgynnull Cynulliad Hinsawdd cyntaf Cymru ym Mlaenau Gwent yn 2021. Bydd y gweithdy hwn yn rhannu rhai o’r gwersi o’r profiadau hyn o ymgysylltu a rhai mewnwelediadau i sut i gynnal y sgyrsiau hyn a galluogi gweithredu. Bydd hefyd yn fan i rannu pryderon neu orbryderon ynghylch cyfathrebu’r newid yn yr hinsawdd ac yn gyfle i drafod datrysiadau posibl.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma

Zoom
Mae cwcis wedi'u Hanalluogi
Marketing and statistics
Addasu eich dewisiadauDefnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn WCVA rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd WCVA i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Eventbrite i gael gwybod sut maent hwythau’n defnyddio’ch gwybodaeth.