Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yn rhoi ei hanerchiad nodedig cyntaf i’r sector gwirfoddol ers ymgymryd â’i swydd newydd! Dewch i wrando ar Lesley Griffiths AS yn nodi ei chynlluniau ar gyfer gweithio gyda’r sector a’r rôl dyngedfennol y bydd yn chwarae yng ngweledigaeth Llywodraeth Cymru am Gymru well, decach a mwy disglair.
Ar adeg pan mae’r galw am wasanaethau’n cynyddu tra bod cyllid a rhoddion cyhoeddus o dan bwysau, mae’n hanfodol bod mudiadau cyhoeddus a gwirfoddol yn gweithio gyda’i gilydd, a phob partner yn cael ei ystyried yn gyfartal.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
theatr gofod3
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.