Yn y sesiwn hon, bydd Pugh Computers yn helpu i egluro sut gall mudiadau gwirfoddol o bob maint fabwysiadu datrysiadau Microsoft Modern Workplace yn llwyddiannus, gan gynnwys Microsoft 365, mannau cyfarfod hybrid Microsoft Teams a Copilot AI. Dewch i ddarganfod:
- sut gall M365 wella eich cynhyrchiant, cydweithrediad a’ch diogelwch i’r eithaf
- sut i ddefnyddio Microsoft Copilot AI yn gyntaf neu ei gyflwyno ledled y mudiad
- rôl mannau cyfarfod hybrid modern cynhwysol a chynaliadwy
- sut i ddefnyddio Microsoft Copilot i grynhoi cyfarfodydd, llunio negeseuon e-bost, creu cyflwyniadau a mwy.
https://www.pugh.co.uk/ (Saesneg yn unig)
Methu mynychu #gofod3 yn bersonol eleni? Dyma un o ddwy sesiwn rydyn ni’n eu treialu mewn fformat hybrid. I gofrestru i fynychu ar-lein, ewch i: https://lu.ma/u7eq2a7w
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.