Mae hon yn sesiwn ar gyfer unrhyw un sydd am i’w mudiad fod yn well wrth ddefnyddio data. O ddechrau gyda dangosfyrddau syml i ddefnyddio pŵer Deallusrwydd Artiffisial: mae angen i chi ddeall aeddfedrwydd data eich mudiad.
Mae fframwaith aeddfedrwydd data Data Orchard sydd am ddim yn helpu mudiadau nid-er-elw ledled y byd i ddeall ble maen nhw o ran saith thema aeddfedrwydd data a chynllunio ar gyfer gwelliannau. Mae asesu eich aeddfedrwydd data yn fwy na dim ond offeryn cynllunio, gall helpu i godi ymwybyddiaeth o’r posibiliadau ar draws y mudiad, dechrau sgyrsiau gwych a sbarduno newid.
Yn y sesiwn hon byddwn yn trafod pam y gallech fod am gynnal asesiad aeddfedrwydd data, esbonio sut i fynd ati a sut i droi’r mewnwelediadau yn strategaeth ddata ystyrlon.
Bydd fformat y sesiwn yn gyfuniad o gyflwyniad a thrafodaeth. Yn ddelfrydol mae hon yn sesiwn ar gyfer uwch reolwyr, arweinwyr data ac ymddiriedolwyr. Madeleine Spinks, Cyd-Brif Weithredwr Data Orchard a Ben Proctor, Cyfarwyddwr Arloesi Data Orchard fydd yn arwain y sesiwn.
https://www.dataorchard.org.uk (Saesneg yn unig)
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.