Yn dilyn ymlaen o’r heriau y mae’r sector wedi’u hwynebu ers 2020 a’r anallu i gwrdd wyneb yn wyneb, mae GGMT yn cynnal Brecinio Rhwydweithio. Gobeithiwn y bydd hyn yn rhoi’r cyfle i fudiadau sy’n gweithio yn yr ardal gwrdd â staff GGMT, clywed am ein prosiectau cyfredol a rhwydweithio gyda sefydliadau eraill.
Mae tîm GGMT wedi esblygu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, felly rydym yn gobeithio y byddwch yn ymuno â ni ac yn manteisio ar y cyfle i gwrdd â staff newydd a meithrin perthnasoedd gwaith newydd.
Bydd lluniaeth yn cael ei weini.
I fynychu ffoniwch 01685 353900 neu e-bostiwch ellie.luke@vamt.net ellie.luke@vamt.net
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn WCVA rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd WCVA i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Eventbrite i gael gwybod sut maent hwythau’n defnyddio’ch gwybodaeth.