Gofod3
Gofod3

Presgripsiynu Cymdeithasol

Dechreuodd prosiect ‘Grow Well’ yn 2016. Prosiect gardd gymunedol pregripsiynu cymdeithasol a therapiwtig yw hwn, a redir gan yr elusen leol, ‘Grow Cardiff’ mewn partneriaeth â Chlwstwr De-orllewin Caerdydd y GIG. Nod y prosiect yw cefnogi iechyd a llesiant pobl leol drwy arddio cymunedol. Yn 2020, roedd yn brosiect Bevan Enghreifftiol ac yn 2021 cyrhaeddodd y rhestr fer yng nghategori Natur y Gwobrau Presgripsiynu Cymdeithasol Cenedlaethol. Gan ddefnyddio’r prosiect ‘Grow Well’ fel astudiaeth achos, bydd y gweithdy hwn a arweinir gan staff ‘Grow Cardiff’ yn edrych ar sut gall mudiadau trydydd sector sefydlu a chynnal prosiectau presgripsiynu cymdeithasol, a’r buddion i gyfranogwyr, yn llwyddiannus.

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma

Mudiad
Grow Cardiff
Pwnc
Math o ddigwyddiad
Lefel gwybodaeth
Lefel cyfranogiad
Lleoliad
Zoom Logo

Zoom

Cofrestru

Mae cwcis wedi'u Hanalluogi

Er mwyn gallu gweld y cynnwys hwn bydd angen i chi alluogi'r cwcis canlynol:

Marketing and statistics

Addasu eich dewisiadau

Datganiad Data

Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.

Yn WCVA rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd WCVA i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Eventbrite i gael gwybod sut maent hwythau’n defnyddio’ch gwybodaeth.

Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh