Ar y thema bwyd, dewch â phicnic fel rhan o ddathliadau’r Cinio Mawr.
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i rwydweithio. Mae gennych chi 1 munud i gyflwyno’ch hunan, eich mudiad a’r gweithgareddau sydd gennych chi ar ddod.
Rydyn ni hefyd wedi gwahodd rhai siaradwyr i siarad am fwyd; Planed, banciau bwyd lleol, clwb cinio lleol, darparwr prydau bwyd lleol, oergell gymunedol a phrosiect bwyd cymunedol sy’n cynnwys gwirfoddolwyr a thyfu bwyd.
Cofrestrwch drwy gofrestru ar Zoom, neu anfonwch e-bost ataf i ddweud y byddwch chi’n ymuno â ni: communityconnectors@pavs.org.uk
Ar ôl cofrestru, byddwch chi’n derbyn e-bost cadarnhau.
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn WCVA rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd WCVA i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Eventbrite i gael gwybod sut maent hwythau’n defnyddio’ch gwybodaeth.