Gwella canlyniadau i gymunedau Gogledd Cymru trwy bartneriaethau cymdeithasol (Noddwyd gan Sefydliad Neumark, mewn partneriaeth â CGGSDd)
Ar Fehefin 23ain 2022, bydd CGGSDd a Sefydliad Neumark (noddwyr y digwyddiad) yn cynnal cynhadledd diwrnod cyfan yn Oriel House, Llanelwy, Sir Ddinbych, gyda siaradwyr o lywodraeth Cymru, Sefydliad Cymunedol Cymru, CGSau, Awdurdodau Lleol, - arianwyr cyflenwi gwasanaethau cymunedol syddddim yn ran o’r llywodraeth, a darparwyr gwasanaethau statudol ac anstatudol y trydydd sector, i drafod y manteision a'r heriau a wynebir gan bob partner, a sut y gallwn gryfhau'r gwasanaethau a ddarperir i wella canlyniadau i gymunedau Gogledd Cymru. Ar ddiwedd pob sesiwn bydd sesiwn Holi ac Ateb efo panel.
Drwy’r digwyddiad hwn, rydym am ganolbwyntio ar wella canlyniadau darparu gwasanaethau i bawb sy’n byw yng nghymunedau Gogledd Cymru, drwy ddod â phartneriaid hanfodol ynghyd i drafod prosesau, nodi manteision a heriau, ac edrych ar sut y gallwn gryfhau cysylltiadau partner i bawb sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau.
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, a byddem yn croesawu presenoldeb gan unrhyw un sy’n ymwneud â, neu sydd â diddordeb mewn cynllunio strategol, rheoli gwasanaeth, cydlynu neu gyflenwi gwasanaethau statudol ac anstatudol ar gyfer cymunedau Gogledd Cymru.
Os bydd y digwyddiad hwn yn llwyddiannus, efallai y bydd cyfleoedd ar gyfer digwyddiadau a gweithdai pellach i barhau â'r ffocws hwn.
Darperir cinio a lluniaeth trwy gydol y dydd (darperir ar gyfer anghenion dietegol arbennig os bydd y mynychwyr yn nodi hyn wrth archebu).
(Sylwer, bydd Dehonglydd BSL yn bresennol am y diwrnod, os bydd y mynychwyr yn nodi'r angen wrth archebu).
Byddwn yn sicrhau bod trefniadau’r digwyddiad yn lleihau’r risg o Covid 19.
Mae'r niferoedd yn gyfyngedig, felly argymhellir archebu lle'n gynnar.
Mae cwcis wedi'u Hanalluogi
Marketing and statistics
Addasu eich dewisiadauDefnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn WCVA rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd WCVA i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Eventbrite i gael gwybod sut maent hwythau’n defnyddio’ch gwybodaeth.