A ydych chi’n fudiad treftadaeth* sy’n ceisio denu pobl o gefndiroedd amrywiol i gymryd rhan yn eich mudiad, er enghraifft, staff, gwirfoddolwyr a/neu aelodau bwrdd, a chyrraedd cynulleidfaoedd a chefnogwyr newydd? Os felly, mae Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion yn eich gwahodd chi i ymuno â ni yn y digwyddiad hwn i gwrdd â chynrychiolwyr o’r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid Cymru, Anabledd Cymru a Pride Cymru i ddysgu mwy am eu gwaith a’r hyn y gallwch chi ei wneud i fod yn fudiad mwy cynhwysol.
Caiff Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion ei gyllido gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Os nad yw eich mudiad yn ymwneud â threftadaeth, ond hoffech ddysgu mwy am waith y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid Cymru, Pride Cymru ac Anabledd Cymru, ynghyd â’r hyfforddiant/cymorth y maen nhw’n eu cynnig o ran hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, cysylltwch â thîm Gofod 3 a gallwn ni eich rhoi chi mewn cysylltiad â nhw.
*Gellir diffinio treftadaeth fel:
Treftadaeth Gymunedol – e.e. prosiect sy’n canolbwyntio ar ardal leol er mwyn gwella/adfer/dehongli’r amgylchedd naturiol neu adeiledig
• Diwylliannau ac Atgofion – e.e. dathlu diwylliannau amrywiol drwy brosiectau celfyddydol/hanes llafar
• Tirweddau a Threftadaeth Naturiol, e.e. hyrwyddo natur/bioamrywiaeth
• Adeiladau Hanesyddol a Henebion
• Diwydiannol, Morol a Thrafnidiaeth
• Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma

Zoom
Mae cwcis wedi'u Hanalluogi
Marketing and statistics
Addasu eich dewisiadauDefnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn WCVA rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd WCVA i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Eventbrite i gael gwybod sut maent hwythau’n defnyddio’ch gwybodaeth.