Mae Age Connects Caerdydd a’r Fro yn cynnig anadl einioes i aelodau hŷn agored i niwed o’n cymunedau lleol a allai fod yn wynebu unigrwydd ac ynysigrwydd heb fawr ddim cymorth teuluol. Gall effaith ynysigrwydd, unigrwydd a thlodi gael effaith ddinistriol ar iechyd a llesiant. Mae llawer gormod o bobl hŷn yn gwybod sut mae hyn yn teimlo. Y llynedd yn unig cefnogodd Age Connects dros 6,000 o bobl. Mae ein gwasanaethau cymorth yn cynnwys cynnig gwiriadau budd-daliadau, torri ewinedd traed, cefnogaeth gyfeillio, cymorth gyda thasgau dyddiol fel siopa ac ymdrin â gohebiaeth a chwmnïaeth y mae ei hangen yn fawr.