Mudiad yn y gymuned yw CEMPOP Uganda sy’n gweithio yn ardaloedd pellennig a gwledig Uganda. Mae tlodi gwledig yn parhau i fod yn broblem yn Uganda, ac rydym yn ceisio lleihau hyn drwy greu systemau busnes amaeth yn y gymuned ar gyfer cynhyrchu, echdynnu, prosesu a marchnata olew mintys poethion, gan ganolbwyntio ar fenywod a phobl ifanc gwledig, drwy fodel menter gymdeithasol.