Y Comisiwn Elusennau yw adran annibynnol, anweinidogol y llywodraeth sy’n cofrestru ac yn rheoleiddio elusennau yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gyfrifol am y canlynol:
- Cofrestru mudiadau cymwys.
- Sicrhau bod elusennau yn bodloni eu gofynion cyfreithiol.
- Cymryd camau gorfodi pan fo camymarfer neu gamymddwyn.
- Darparu arweiniad i helpu elusennau i weithredu mor effeithiol â phosibl.
- Darparu gwasanaethau ar-lein i elusennau.
Y Rheoleiddiwr Codi Arian yw’r rheoleiddiwr annibynnol, anstatudol ar gyfer codi arian elusennol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
O godi arian ar y stryd i ddigwyddiadau codi arian ar raddfa fawr, rydym yn rheoleiddio’r holl waith codi arian yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a gynhelir gan sefydliadau elusennol a chodwyr arian trydydd parti.