Mae Cymraeg i Blant yn gynllun cenedlaethol dan adain Mudiad Meithrin. Drwy gynnal ystod eang o weithgareddau am ddim i rieni newydd fel tylino babi, ioga babi a sesiynau arwyddo a chân rydym yn agor y drws yn gynnar iddynt o ran dod i wybod mwy am fanteision gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg. Un o brif amcanion y strategaeth yw estyn allan i rieni di-gymraeg fel eu bod yn dod i sylweddoli ei bod yn bosib cyflwyno’r Gymraeg i’w plentyn.