Mae Cymorth Canser Macmillan yn elusen ledled y DU. Ar hyn o bryd mae mwy na 3 miliwn o bobl yn byw gyda chanser ac mae’r nifer hwnnw yn debygol o gynyddu. Mae Cymorth Canser Macmillan yma i wneud beth bynnag sydd ei angen i helpu pawb â chanser i fyw bywyd mor llawn ag y gallant. Mae canser yn bersonol, ac mae pawb, waeth pwy a ble maen nhw, yn haeddu gofal o ansawdd uchel sy’n eu helpu, yn ogystal â thrin eu canser.