Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, credwn mai cymuned yw’r man cychwyn. Dyna pwy yr ydym yn ei gwasanaethu, a dyna lle y byddwch yn dod o hyd i ni, ym mhob cwr o’r wlad. Mae ein grantiau’n ceisio rhoi’r pŵer i bobl adeiladu a chryfhau eu cymuned, drwy eu cefnogi i ddod ynghyd a gwella bywydau.
Rydym yn cefnogi cymunedau ledled Cymru i ffynnu drwy ddyfarnu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae ein harian yn cefnogi amrywiaeth eang o fudiadau – mawr a bach – i gyflawni gweithgareddau sy’n trawsnewid bywydau pobl ac yn helpu cymunedau.