Y Brifysgol Agored yw darparwr mwyaf addysg uwch rhan-amser i israddedigion yng Nghymru. Mae ymhlith y gorau yn y byd am ddarparu cyfleoedd dysgu o bell arloesol a hyblyg ar lefel addysg uwch, gan gynnwys cyrsiau i israddedigion a myfyrwyr ôl-radd a chyrsiau mynediad.
Digwyddiadau gan y mudiad hwn
Sut gall y Brifysgol Agored yng Nghymru helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr
Mer 5 Meh 2024, 12:30pm
Gwirfoddoli
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru, mewn partneriaeth â’r cynghorau gwirfoddol rhanbarthol ac CGGC, wedi datblygu’r rhaglen ‘Elwa drwy Wirfoddoli’. Mae’n helpu gwirfoddolwyr i wella eu gwybodaeth a’u sgiliau fel eu bod yn manteisio i’r eithaf ar wirfoddoli – neu hyd yn oed yn symud ymlaen i rôl wirfoddoli uwch.
Dyma rai o’r pynciau y byddwn yn edrych arnynt:
gwydnwch a llesiant
arweinyddiaeth
dysgu pellach
Yn y sesiwn hon, byddwn yn trafod sut gall Elwa ar Wirfoddoli eich helpu chi a’ch mudiad. Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru hefyd eisiau clywed eich syniadau ar sut gellid datblygu’r rhaglen yn y dyfodol.
https://www5.open.ac.uk/wales/cy