Mae Platfform yn gweithio gyda phobl sy’n cael problemau â’u hiechyd meddwl, a’u cymunedau, i greu ymdeimlad cryfach o gysylltiad, perchnogaeth a llesiant. Rydym yn mynd ati i ymdrin ag iechyd meddwl mewn modd holistaidd a chyfiawnder cymdeithasol, gan edrych ar beth sydd wrth wraidd trallod a chreu systemau ar gyfer cymunedau ffyniannus. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, cymorth â llesiant yn y gweithle, goruchwyliaeth a chwnsela i fudiadau ac unigolion.
Digwyddiadau gan y mudiad hwn
Creu gobaith ac iachâd: gweithio mewn ffordd a hysbysir gan drawma i fynd i’r afael ag iechyd meddwl cymunedol
Mer 5 Meh 2024, 12:30pm
Iechyd meddwl
Byddwch yn rhan o waith Platfform ar ddatblygu’r sgwrs ynghylch iechyd meddwl yng nghyd-destun cyfiawnder cymdeithasol a newid system. Dewch i’r sesiwn hon i ddysgu mwy am y ffordd wahanol y mae Platfform yn mynd ati i ymdrin ag iechyd meddwl, sy’n creu gobaith ac iachâd drwy gymuned ac yn ymwreiddio arferion a diwylliant perthynol a hysbysir gan drawma ar draws mudiadau yng Nghymru.
Bydd Platfform yn dangos sut mae dull gweithredu perthynol yn gweithio’n ymarferol, drwy greu gofod cynnes a chroesawgar i bobl gysylltu fel bodau cyfartal, a bod yn chwilfrydig ynghylch storïau a syniadau.
www.platfform.org
Ymwreiddio diwylliant a hysbysir yn berthynol gan drawma yn eich mudiad
Mer 5 Meh 2024, 2:30pm