Gofod3
Gofod3


Ers 2007 mae SCG Cymru wedi cynnig datrysiadau telathrebu a rhyngrwyd arbenigol i gwsmeriaid ledled De a Gogledd Cymru.

Mae technoleg yn newid yn gyflym – ac mae hynny’n golygu bod rhai mudiadau yn cael eu gadael ar ôl. Rydyn ni’n fwy na darparwr telathrebu; rydyn ni’n gweld ein hunain fel ymgynghorwyr, yn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ac yn arbed arian iddyn nhw yn y cyfnod heriol hwn.

Mae hyn yn cael effaith bositif go iawn ar fusnesau pobl, a dyna sy’n ein gyrru.Rydyn ni’n frwd ynghylch cyflwyno arbedion go iawn, cynhyrchion cwbl arloesol a’r lefelau gwasanaeth gorau yn yr ardal.

Trwy waith ymchwil, profion a herio cynnyrch, rydyn ni’n cynnig y gwasanaethau diweddaraf a gorau yn y farchnad i’n cleientiaid. A chaiff hyn i gyd ei gefnogi gan dîm gwasanaeth cwsmeriaid a chymorth technegol sy’n ceisio bod y gorau yn y diwydiant.

Mae gan SCG Cymru fwy o beirianwyr fesul cwsmer na’n cystadleuwyr lleol a chenedlaethol. Rydyn ni’n cynnig amserau ymateb cyflymach a rhai o’r cynhyrchion mwyaf blaengar yn y farchnad. A nod yr holl bethau hyn yw gwneud bywyd yn haws i’n cwsmeriaid – fel y gallant wneud y gorau o’u hamser busnes a pheidio â phoeni am eu telathrebu.

SCG Cymru yw eich un stop am delathrebu sy’n arbed arian ac yn rhoi lefelau eithriadol o gymorth.

I gael gwybod mwy am ein gwasanaethau mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01656 33 44 55 neu e-bostiwch ein tîm gwerthu ar [email protected]

https://www.scgwales.com/wcva-trusted-provider/

Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh