Elusen ledled y DU ydym ni sy’n hyrwyddo tegwch a chwarae teg i bobl ifanc drwy chwaraeon a gweithgareddau corfforol llawr gwlad. Ein rhwydwaith o 2,900 o grwpiau llawr gwlad yw rhwydwaith mwyaf y DU o grwpiau cymunedol, ac mae’n cefnogi hanner miliwn o bobl ifanc i oresgyn rhwystrau i gyflawni eu potensial llawn.
www.sported.org.uk (Saesneg yn unig)
Digwyddiadau gan y mudiad hwn

Cryfhau gwirfoddoli strategol yn sector chwaraeon cymunedol Cymru
Mer 5 Meh 2024, 4:00pm
Gwirfoddoli
Mae hwn yn weithdy rhyngweithiol a arweinir gan Sported, rhwydwaith mwyaf y DU o grwpiau cymunedol sy’n hybu tegwch a chydraddoldeb i bobl ifanc. Bydd y sesiwn hon yn edrych ar y problemau a’r datrysiadau sy’n gysylltiedig â recriwtio a chadw gwirfoddolwyr ar lefelau bwrdd a phwyllgor ar draws sector chwaraeon cymunedol Cymru.
Dewch i rannu eich gwybodaeth, unrhyw arferion da rydych chi wedi’u gweld, ac i ystyried y datrysiadau arloesol a chydweithredol sydd eu hangen i gryfhau gwirfoddoli ar lefelau bwrdd a phwyllgor ar draws sector chwaraeon cymunedol Cymru.
www.sported.org.uk (Saesneg yn unig)