Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli buddiannau’r llywodraeth leol ac yn hybu democratiaeth leol yng Nghymru. Ein prif ddiben yw hyrwyddo llywodraeth leol well, hyrwyddo ein henw da a chefnogi awdurdodau i ddatblygu polisïau a blaenoriaethau a fydd yn gwella gwasanaethau cyhoeddus a democratiaeth.