Mae cwcis wedi'u Hanalluogi
Marchnata
Addasu eich dewisiadaugofod3 yw’r digwyddiad mwyaf o’i fath i’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
gofod3 yw eich gofod unigryw chi.
Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, dyma’ch gofod chi i fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
YNGLŶN Â GOFOD3
Digwyddiad a drefnir gan CGGC yw gofod3 mewn cydweithrediad â’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, mae gofod3 wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer pobl sy’n ymwneud â mudiadau gwirfoddol Cymraeg.
Caeth gofod3 ei sefydlu’n gyntaf yn ystod gwanwyn 2017 fel digwyddiad undydd, blynyddol yng Nghaerdydd.
Ym mis Mehefin, daethom â gofod3 yn ôl fel digwyddiad wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers cyn y pandemig. Ar ôl dychwelyd yn llwyddiannus i’n fformat gwreiddiol, mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd gofod3 yn ôl yn 2025, ar 2 Gorffennaf 2025 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
gofod3 yw lle mae'r sector gwirfoddol yn dod at ei gilydd
Mae gofod3 yn dod â’r sector gwirfoddol at ei gilydd i ddysgu oddi wrth ei gilydd ac i ysbrydoli ei gilydd. Rydym yn rhoi llwyth o gyfleoedd i chi rwydweithio â’ch cymheiriaid o bob rhan o’r sector gwirfoddol, yn ogystal â chwrdd â chydweithwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat a sgwrsio â nhw yn ein marchnad brysur.
gofod3 2025
Bydd gofod3 yn dychwelyd ar 2 Gorffennaf 2025 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae’r digwyddiad yn parhau i fod yn rhad ac am ddim i fynd iddo, ond mae’n rhaid cadw lle ymlaen llaw.
Cadw'n gyfredol
Cofrestrwch i'n rhestr bostio gofod3 i gael diweddariadau am y rhaglen ac awgrymiadau gorau am fanteisio i'ch profiad gofod3.
gofod3 2024
Gwnaeth dychwelyd i ddigwyddiad wyneb yn wyneb roi llwyth o gyfleoedd i chi rwydweithio â’ch cymheiriaid o bob rhan o’r sector gwirfoddol, yn ogystal â chwrdd â chydweithwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat a sgwrsio â nhw yn ein marchnad brysur.
Dyma rai myfyrdodau o gofod3 2024:
Grymuso mudiadau trwy gyd-gynhyrchu a gweithio mewn partneriaeth
Pedwar cam i gryfhau eich strategaeth ddigidol
‘Mae’n rhaid i ni weithio gyda gobaith’
Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Trawsnewid sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd