Gofod3
Gofod3

Digwyddiadau Cysylltiedig

Sut mae’r cyhoedd a gwleidyddion yn ystyried y sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru?

Mer 2 Gorff 2025, 4:00pm

Polisi a gwleidyddiaeth
Ymchwil
Ar ôl dadansoddi data pleidleisio hirdymor, bydd nfpResearch yn datgelu sut mae agweddau cyhoeddus a gwleidyddol tuag at elusennau wedi newid dros y degawd diwethaf. Bydd y sesiwn yn archwilio pedwar maes allweddol sy’n hanfodol i’r sector: Ymddiriedaeth a gwelededd – sut mae elusennau Cymru yn cymharu â’r DU, gan gynnwys eu rôl wrth wynebu heriau Newid arferion rhoi – sut hoffai pobl Cymru i’w harian gael ei wario Y Gymraeg a lleoliaeth – sut gall elusennau Cymru wella eu cyfathrebu â’r cyhoedd Ymgysylltu gwleidyddol – sut gall elusennau ymgysylltu’n effeithiol ag ASau a pharatoi ar gyfer 2026. Bydd y sesiwn hon yn darparu data gwerthfawr a gwybodaeth strategol i elusennau sy’n llywio sector gwirfoddol Cymru sy’n esblygu.

 Ein cartrefi, ein llais: Grymuso pobl, creu cartrefi

Mer 2 Gorff 2025, 2:30pm

Tai
Polisi a gwleidyddiaeth
Fel yr unig Hwb yng Nghymru ar gyfer Tai dan Arweiniad y Gymuned, mae tîm Cymunedau’n Creu Cartrefi Cwmpas yn gyfrifol am ddarparu cyngor a chymorth i gynyddu nifer y cartrefi fforddiadwy dan arweiniad y gymuned ledled Cymru y mae pobl leol yn berchen arnyn nhw ac/neu sy’n cael eu rheoli er budd y gymuned ehangach. Yn syml, mae hyn yn golygu cartrefi fforddiadwy a grëwyd gan fudiadau nid er elw ar lawr gwlad sy’n sensitif i’r cyd-destun ac yn ymwybodol o’u heffaith – yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol. Dewch draw i ddysgu mwy!

Cyflawni’r Cynllun Seibiant Byr cenedlaethol yn y sector gwirfoddol: harneisio’r effaith a’r dysgu

Mer 2 Gorff 2025, 11:00am

Gofalwyr
Iechyd a gofal cymdeithasol
Bydd y sesiwn hon yn arddangos effaith y Cynllun Seibiant Byr hyd yma drwy rannu profiadau gofalwyr di-dâl sydd wedi manteisio ar y cynllun. Bydd cyfle i glywed gan banel o fudiadau yn y sector gwirfoddol sy’n darparu seibiannau byr o dan Grant Amser yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Manteisiwch ar y cyfle i ddysgu gan yr elusennau sy’n darparu seibiannau i ofalwyr wrth i ni edrych ar ddyfodol seibiannau byr i ofalwyr di-dâl yng Nghymru.

Pobl, Planed, Ffyniant: Adeiladu gweledigaeth gyffredin er mwyn creu economi deg a chynhwysol i Gymru

Mer 2 Gorff 2025, 12:30pm

Amgylcheddol
Polisi a gwleidyddiaeth
Sut olwg fyddai ar bontio teg pe bai’r bobl a’r blaned yn rhan wirioneddol greiddiol ohoni? Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut y gall economeg ffeministaidd, cyfiawnder hinsawdd, ac egwyddorion economi llesiant lywio taith Cymru tuag at economi werdd ofalgar. Gan ddefnyddio ymchwil newydd ar Economi Llesiant i Gymru a gweledigaeth ar gyfer Bargen Werdd Newydd yn seiliedig ar egwyddorion ffeministaidd, bydd y panel yn ail-ddychmygu economi sydd nid yn unig yn diogelu’r amgylchedd ond yn blaenoriaethu llesiant y rhai mae’r argyfwng hinsawdd yn effeithio fwyaf arnyn nhw – gan adael neb ar ôl.
Gofod3
^
cyWelsh