Gofod3
Gofod3

Digwyddiadau Cysylltiedig

Cydymffurfio â’r gyfraith a diogelu hawliau pobl

Mer 5 Meh 2024, 4:00pm

Diogelu Data
Llywodraethu
Mae mwy a mwy o bobl yn dod yn ymwybodol o’u data personol a sut mae’n cael ei ddefnyddio. Mae’n rhaid i elusennau a mudiadau trydydd sector sydd am i bobl ymddiried ynddynt i gael pethau’n iawn – ac rydyn ni yma i helpu. Mae’r sesiwn hon yn gyfle i ddatblygu eich dealltwriaeth o Ddiogelu Data ac i gael cyngor gennym ar y meysydd yn ein cylch gorchwyl sydd bwysicaf i chi. Byddwch yn clywed gan ein tîm sy’n gweithio’n rheolaidd gyda’r sector elusennol a bydd cyfle i siarad â ni am eich profiadau o gydymffurfio â chyfraith hawliau gwybodaeth. Methu mynychu #gofod3 yn bersonol eleni? Dyma un o ddwy sesiwn rydyn ni’n eu treialu mewn fformat hybrid. I gofrestru i fynychu ar-lein, ewch i: https://lu.ma/64ykorxd

Dylunio gwasanaethau digidol sy’n gweithio

Mer 5 Meh 2024, 2:30pm

Digidol
Dysgwch sut i wella’ch sgiliau digidol ac adeiladu gwasanaethau gyda chymunedau. Bydd ProMo Cymru yn rhannu sut maen nhw’n cyfuno gwaith ieuenctid a chymunedol gydag egwyddorion dylunio gwasanaethau i greu gwasanaethau a phrofiadau digidol sy’n gweithio i bobl. Yn ystod y sesiwn ryngweithiol hon, bydd ProMo yn dod â’r broses dylunio gwasanaethau pedwar cam yn fyw, gan rannu enghreifftiau, awgrymiadau ac adnoddau perthnasol. Cyflwynir y sesiwn hon gan Newid: Digidol ar gyfer y Trydydd Sector, rhaglen a gyllidir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth ag CGGC, ProMo-Cymru a Cwmpas, gyda chefnogaeth Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. https://www.newid.cymru/cy/

Helpu mudiadau gwirfoddol Cymru i arloesi gyda Microsoft Modern Workplace ac AI

Mer 5 Meh 2024, 12:30pm

Digidol
Yn y sesiwn hon, bydd Pugh Computers yn helpu i egluro sut gall mudiadau gwirfoddol o bob maint fabwysiadu datrysiadau Microsoft Modern Workplace yn llwyddiannus, gan gynnwys Microsoft 365, mannau cyfarfod hybrid Microsoft Teams a Copilot AI. Dewch i ddarganfod: sut gall M365 wella eich cynhyrchiant, cydweithrediad a’ch diogelwch i’r eithaf sut i ddefnyddio Microsoft Copilot AI yn gyntaf neu ei gyflwyno ledled y mudiad rôl mannau cyfarfod hybrid modern cynhwysol a chynaliadwy sut i ddefnyddio Microsoft Copilot i grynhoi cyfarfodydd, llunio negeseuon e-bost, creu cyflwyniadau a mwy. https://www.pugh.co.uk/ (Saesneg yn unig) Methu mynychu #gofod3 yn bersonol eleni? Dyma un o ddwy sesiwn rydyn ni’n eu treialu mewn fformat hybrid. I gofrestru i fynychu ar-lein, ewch i: https://lu.ma/u7eq2a7w
Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh