Rhwydweithio rhithwir: sut i fanteisio i’r eithaf ar ryngweithio ag eraill yn gofod3.
Eisiau gwneud y mwyaf o rwydweithio yn ystod y gofod3 rhithiol cyntaf erioed? Dylai’r syniadau da hyn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gysylltu.
Nodau aur
Yn yr un modd â digwyddiad wyneb yn wyneb, mae’n bwysig amlinellu rhai nodau clir o ran pa gysylltiadau yr hoffech chi eu gwneud a pham. Edrychwch ar ein rhaglen lawn a meddyliwch am yr hyn yr hoffech chi ei ddysgu o’r diwrnod a lle allech chi ddod o hyd i gysylltiadau ag eraill sydd â diddordebau tebyg. Byddai’n beth da hefyd i feddwl am nod o faint o bobl y gallwch chi gysylltu â nhw’n realistig mewn diwrnod. Mae gwneud cysylltiadau ystyrlon yn fwy pwysig na dim ond casglu llwyth o rifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.
Ymgysylltu a chymryd rhan
Mewn llawer o’r sesiynau, byddwch chi’n cael cyfle i drafod pynciau gyda phobl eraill, rhoi adborth a gofyn cwestiynau i aelodau panel, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud eich dweud! Trwy wneud hyn, bydd sgyrsiau’n llifo a byddwch yn annog eraill i gymryd rhan, a gallai hyn arwain at gydweithio’n ystyrlon â mynychwyr eraill y gallwch chi wedyn barhau i’w wneud y tu allan i’r sesiwn.
Deall eich cyfryngau cymdeithasol
Byddwn ni’n defnyddio’r hashnod #gofod3 ar gyfryngau cymdeithasol, felly bydd dilyn yr hashnod yn caniatáu i chi wneud cysylltiadau ag eraill sy’n mynychu’r digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol. Mae cyfryngau cymdeithasol hefyd yn ffordd wych o fynd ar ôl cysylltiadau y gwnaethoch chi ar y diwrnod ar ôl hyn drwy negeseuon uniongyrchol.
Dechreuwyr sgwrs
Gall siarad â rhywun newydd fod yn frawychus, felly gall paratoi rhai dechreuwyr sgwrs ymlaen llaw wneud i chi deimlo’n fwy cysurus, er enghraifft;
- ‘Beth sy’n eich tynnu i gofod3’
- ‘Pa sesiynau ydych chi wedi bod ynddyn nhw hyd yma heddiw’
- ‘Rwy’n gobeithio ehangu fy ngwybodaeth am …. Tybed a alla’ i bigo’ch ymennydd’
Cyfeiriwch bobl atoch
Yn anffodus, gan fod y digwyddiad yn rhithiol, ni fyddwn ni’n gallu dibynnu ar fathodynnau enw dibynadwy, ond gallwch chi barhau i dynnu sylw pobl atoch. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r swyddogaeth sgwrsio i gyflwyno’ch hun drwy ddweud wrth eraill pa gysylltiadau rydych chi’n gobeithio eu gwneud a pham, yn ogystal â rhoi cyfeiriad e-bost neu rif ffôn ar gyfer y sgyrsiau dilynol hynny. Byddwn ni’n defnyddio Zoom, felly gallwch chi anfon negeseuon preifat at gyfranogwyr eraill yn y sesiwn gan ddefnyddio’r swyddogaeth sgwrsio.
Rydyn ni i gyd yn yr un cwch
Cofiwch y bydd y rhan fwyaf o’r bobl sy’n mynychu eisiau gwneud cysylltiadau newydd hefyd, felly pan ddaw hi i ddechrau sgyrsiau, peidiwch â bod yn swil.