Gofod3
Gofod3

gofod3 yw’r digwyddiad mwyaf o’i fath i’r sector gwirfoddol yng Nghymru ac mae’n ôl – yn fwy ac yn well nag erioed!

gofod3 yw eich gofod unigryw chi.

Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, dyma’ch gofod chi i fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae eleni wedi bod yn anodd i ni i gyd - i rai’n fwy nag eraill - ond mae angen y sector gwirfoddol yn fwy nag erioed. Mae Covid-19 wedi gwneud hynny’n eglur i bawb..

Dyma’ch gofod chi i bwyso a mesur a meddwl am y pethau sy’n bwysig i chi.

  • Rhannu storïau
    Cyfleoedd i rannu eich profiadau o’r flwyddyn ddiwethaf gyda chyd-fynychwyr mewn amgylchedd agored, hamddenol.
  • Byw a gweithio’n dda
    Mewn byd lle mae’r llinell rhwng gwaith a gartref yn fwy aneglur nag erioed, edrychwch ar ffyrdd o gael cydbwysedd iach ac osgoi blinder Zoom.
  • Dysgwch am y sector
    Bydd sbotolau yn cael ei belydru ar waith gwerthfawr y sector gwirfoddol ledled Cymru; dewch i weld beth y mae cymheiriaid wedi’i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Covid-19 wedi newid ein diwrnod gwaith am byth. Mae wedi creu tirwedd weithio newydd i bob un ohonom.

Dyma’ch gofod chi i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd i’ch helpu i lywio eich hun ac eraill drwy faes anghyfarwydd.

  • Dosbarthiadau meistr dan arweiniad arbenigwyr
    Wedi’u dylunio i roi offer, gwybodaeth a sgiliau newydd i chi ar amrediad o bynciau, gan gynnwys gweithio gyda thosturi – tuag at eich hun a phobl eraill.
  • Gweithdai rhyngweithiol
    Dewch i sgwrsio â’ch cymheiriaid, i rannu syniadau a chwalu rhwystrau er mwyn goresgyn heriau er budd eich mudiad a’ch datblygiad personol.
  • Amrediad eang o weithdai a thrafodaethau
    Waeth a ydych chi eisiau denu mwy o gyllid, gweithio o bell, negodi eich lesau, neu gyfathrebu effaith, bydd yna ddigwyddiad ar y pwnc.

Mae Covid-19 wedi trawsnewid bron bob agwedd ar ein byd, gan gynnwys ein cynlluniau lluniaidd.

Dyma’ch gofod chi i ddechrau ar eich cynlluniau i ailgodi’n gryfach.

  • Cael eich ysbrydoli
    ISesiynau ysbrydoledig o bob rhan o Gymru i helpu i oresgyn heriau, rhoi pethau newydd a ddysgwyd ar waith ac i lunio strategaethau ôl-Covid.
  • Gwneud cysylltiadau gwerthfawr
    Cysylltwch â chymheiriaid, gweld pobl sy’n esiampl, cwrdd â mentoriaid a chreu cynlluniau ar gyfer y dyfodol gyda’n gilydd. 
  • Gofyn cwestiynau heriol
    Manteisiwch ar y cyfle i herio ein siaradwyr a’n haelodau panel ar y materion sy’n bwysig i chi.
Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh